Rhagolwg Cymru Premier JD: Caernarfon i herio Pen-y-bont

Sgorio
2025-08-16_CaernarfonTown_LlanelliTown_255.jpg

Caernarfon yw’r unig dîm sydd heb golli gêm yn y Cymru Premier JD hyd yma, ac mae’r ceffylau blaen yn croesawu Pen-y-bont i Barc Maesdu ddydd Sadwrn.

Ar waelod y tabl, bydd Llanelli yn benderfynol o hawlio eu pwynt cyntaf ers eu dyrchafiad wrth iddyn nhw groesawu’r newydd-ddyfodiaid eraill, Bae Colwyn.

Dyma gipolwg ar gemau dydd Sadwrn:

Hwlffordd (11eg) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Hwlffordd wedi llithro i safleoedd y cwymp ar ôl dwy golled yn olynol yn y gynghrair gyda’r Adar Gleision yn methu a sgorio yn eu dwy gêm hyd yma (YSN 5-0 Hwl, Bae 3-0 Hwl).

Er gorffen yn y trydydd safle y tymor diwethaf, roedd y goliau’n brin i dîm Tony Pennock (cyfartaledd o 1.2 gôl y gêm), ac mae’n stori debyg eleni gan fod yr Adar Gleision m’ond wedi rhwydo pedair gôl mewn chwe gêm gynghrair hyd yn hyn.

I ychwanegu at eu trafferthion bydd rhaid i Hwlffordd ymdopi heb wasanaeth Alaric Jones a Ben Fawcett y penwythnos hwn wedi i’r ddau dderbyn cardiau coch yn erbyn Bae Colwyn brynhawn Sadwrn diwethaf.

Dyw Cei Connah heb fod ar eu gorau’n ddiweddar chwaith gyda’r Nomadiaid ar rediad o dair gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth.

A does gan Gei Connah ddim record arbennig yn erbyn Hwlffordd gan i’r Nomadiaid ennill dim ond un o’r pum gornest ddiwethaf rhwng y timau (cyfartal 1, colli 3).

Record cynghrair diweddar: 

Hwlffordd: ➖✅➖❌❌       Cei Connah: ❌✅✅❌➖

Llanelli (12fed) v Bae Colwyn (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Ar ôl sicrhau dyrchafiad dros yr haf, dyw Llanelli’n bendant heb gael y dechrau delfrydol ar ôl dychwelyd i’r uwch gynghrair, gan golli eu saith gêm hyd yma.

Does neb wedi sgorio llai na Llanelli hyd yma (3 gôl mewn 7 gêm), ac i ychwanegu halen at y briw, mae eu prif sgoriwr y tymor diwethaf, Liam Eason wedi sgorio wyth gôl gynghrair i Cambrian United y tymor hwn a chael ei enwi yn Chwaraewr y Mis yng Nghynghrair y De.

Dyma’r dechrau gwaethaf i unrhyw dîm ar y cae yn yr uwch gynghrair ers 2021/22 pan oedd Derwyddon Cefn yn yr un gwch â Llanelli eleni ar ôl colli eu saith gêm agoriadol.

Mae Bae Colwyn wedi codi i’r hanner uchaf ar ôl ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn gyfforddus yn erbyn clybiau orffennodd yn y Chwech Uchaf y tymor diwethaf (Met 1-4 Bae, Bae 3-0 Hwl).

Dyw’r Gwylanod m’ond wedi colli un o’u saith gêm gynghrair y tymor hwn a bydd Michael Wilde yn disgwyl dim llai na thriphwynt arall brynhawn Sadwrn.

Record cynghrair diweddar: 

Llanelli: ❌❌❌❌❌             Bae Colwyn: ͏❌➖➖✅✅

Y Fflint (9fed) v Y Barri (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r Fflint wedi disgyn i’r 9fed safle ar ôl colli’n drwm o 5-0 ym Mhen-y-bont y penwythnos diwethaf.

Mae o leiaf pum gôl wedi cael ei sgorio ym mhob un o bum gêm ddiwethaf Y Fflint, ac er fod gan y Sidanwyr gêm wrth gefn, dim ond Caernarfon a’r Seintiau sydd wedi sgorio mwy y tymor hwn, tra mai Llanelli yw’r unig dîm i ildio mwy.

Roedd hi’n wythnos fuddiol i’r Barri a enillodd o 1-0 yn erbyn Llanelli yng Nghwpan Nathaniel MG cyn curo’r Bala o 4-0 ar Barc Jenner brynhawn Sadwrn.

Mae’r Barri felly wedi cadw tair llechen lân yn eu pedair gêm ddiwethaf, yn cynnwys gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Seintiau Newydd ym mis Awst.

Mae’r gemau blaenorol rhwng y timau wedi bod yn rhai agos a chystadleuol, a’r Fflint oedd yn fuddugol o 3-2 yn yr ornest ddiwethaf ym mis Mawrth gyda Josh Jones yn ennill y gêm o’r smotyn i’r Sidanwyr yn y funud olaf.

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ❌❌✅✅❌               Y Barri: ❌➖➖❌✅

Caernarfon (1af) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)

Caernarfon sy’n parhau i osod y safon yn y Cymru Premier JD y tymor hwn, a’r Cofis yw’r unig dîm sydd heb golli’n y gynghrair eto

Dyw’r Caneris m’ond wedi gollwng pwyntiau mewn dwy gêm hyd yma ar ôl ildio ciciau o’r smotyn dadleuol oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd a Hwlffordd (Met 2-2 Cfon, Hwl 1-1 Cfon).

Un pryder posib i Richard Davies yw bod Caernarfon wedi mynd ar ei hôl hi ym mhob un o’u pedair gêm ddiwethaf, ond mae’r Cofis wedi dangos cymeriad i frwydro nôl i ennill tair o rheiny yn ogystal â chael gêm gyfartal yn erbyn Hwlffordd.

Ar ôl methu a tharo’r rhwyd mewn dwy gêm gynghrair yn olynol mae Pen-y-bont wedi darganfod eu hesgidiau sgorio eto gan rwydo pum gôl yn erbyn Y Fflint y penwythnos diwethaf.

Gorffennodd Pen-y-bont yn yr ail safle y tymor diwethaf, a bydd Rhys Griffiths yn awyddus i orffen yn y ddau uchaf eto eleni er mwyn hawlio eu lle’n Ewrop am yr ail dymor yn olynol.

Enillodd Pen-y-bont dair o’u pedair gornest yn erbyn Caernarfon y tymor diwethaf a bydd rhaid i’r Cofis fod yn wyliadwrus o James Crole, gan iddo gyfrannu at wyth gôl yn ei dair gêm ddiwethaf yn erbyn y Caneris (sgorio 5, creu 3).

Record cynghrair diweddar:

Caernarfon: ͏✅✅➖✅✅             Pen-y-bont: ͏✅✅❌➖✅

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.