Rhybudd melyn am wynt a glaw dros y penwythnos
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt a glaw trwm ar gyfer y mwyafrif o Gymru dros y penwythnos.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 09.00 ar fore Sadwrn a 06.00 fore Sul ac yn effeithio ar siroedd yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai hyd at 60-80 mm o law ddisgyn mewn rhai ardaloedd, gyda hyrddiadau cryf o wynt hefyd yn debygol.
Mae perchnogion tai mewn ardaloedd ble mae llifogydd yn risg wedi eu cynghori i baratoi am argyfwng posib.
Mae’r rhybudd hefyd yn effeithio ar rannau o’r Alban a gogledd Lloegr.
Dyma’r siroedd sydd yn ardal y rhybudd yng Nghymru:
- Abertawe
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Sir Gâr
- Wrecsam
- Ynys Môn