
Cyngor Môn: Colli 'dogfennau allweddol' yn achos atgyweirio to ysgol am £2.6m
Doedd dim modd i Gyngor Môn sefydlu pwy oedd yn atebol am fethiant to ysgol y bu'n rhaid talu £2.6m o arian cyhoeddus i'w atgyweirio, gan fod nifer o ddogfennau allweddol wedi eu colli.
Dyma ganfyddiad adroddiad sydd yn gwneud nifer o argymhellion yn dilyn trafferthion gyda tho Canolfan Addysg y Bont yn Llangefni.
Mae'r adroddiad yn nodi bod 'Gwella trefniadau cadw dogfennau' wedi bod yn un wers sydd wedi ei dysgu ers y problemau gyda'r ganolfan.
Cafodd Canolfan Addysg y Bont ei hagor yn 2014, ond erbyn 2021 fe ddaeth yn amlwg fod problemau sylweddol gyda tho'r adeilad.
Bu'n rhaid i'r cyngor dalu £2.6m o'i goffrau ei hun i atgywieirio'r to yn 2023.
Cafodd hyn ei wneud er mwyn cyflymu'r broses ar y pryd meddai'r cyngor - gyda'r bwriad o hawlio’r costau yn ôl gan y prif gontractwr yn ddiweddarach.
Ond fe gyhoeddodd Cyngor Môn ym mis Rhagfyr y llynedd na fyddai'n cyflwyno her gyfreithiol i geisio hawlio'r arian yn ôl, ar ôl derbyn cyngor arbenigol.
'Anfantais'
Cafodd yr adroddiad o'r enw 'Atgyweirio To Canolfan Addysg y Bont - Gwersi a Ddysgwyd' ei gyflwyno i Bwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y cyngor yn ystod yr haf.
Ei awdur oedd Meilir Hughes, Prif Swyddog Eiddo ac Asedau y cyngor.
Dywed yr adroddiad fod y cyngor wedi "wynebu anfantais wrth geisio sefydlu ym mhle’r oedd atebolrwydd am fethiant y to yn eistedd oherwydd nad oedd nifer o ddogfennau allweddol ar gael.
"Y rheswm am hyn oedd bod rhai dogfennau wedi eu gadael yng nghyfrifon e-bost swyddogion unigol ac nid oedd modd cael mynediad at y gyriannau ('drives') mwyach, yn hytrach na’u bod yn cael eu cadw ar ffeiliau a rennir."
Mae'r wybodaeth am y dogfennau allweddol nad oedd modd eu darganfod bellach yn ymddangos o dan is-bennawd 'Cadw Dogfennau er mwyn gwneud y mwyaf o’r hawliau digolledu cyfreithiol sydd ar gael'.
Wrth edrych ar y gwersi gafodd eu dysgu, ychwanegodd y ddogfen: "Gwella trefniadau ffeilio gohebiaeth prosiectau a sicrhau fod yr holl ddogfennau prosiect perthnasol, gan gynnwys e-byst, yn cael eu harchifio’n briodol.
"Mae’r wers hon yn cael ei gweithredu’n ôl-weithredol ar gyfer prosiectau a gwblhawyd a bydd hefyd yn cael ei gweithredu ar gyfer pob prosiect yn y dyfodol."
Adennill costau am y gwaith
Dywed yr adroddiad fod y cyngor wedi ceisio adennill costau’r gwaith adfer, "yn ogystal ag unrhyw gostau cysylltiedig eraill gan y parti/partïon oedd yn cael eu hystyried yn gyfrifol am y to diffygiol, trwy setlo tu allan i’r llys.
"Comisiynwyd cyfreithwyr allanol a thyst arbenigol i gynghori’r Cyngor ynglŷn ag a fyddai dwyn hawliad trwy’r llysoedd yn debygol o fod yn llwyddiannus.
"Yn y diwedd, ni ddaethpwyd i gytundeb tu allan i’r llys. Mewn cyfarfod arbennig ar 12/12/2024, cymeradwyodd y Cyngor Llawn argymhellion y swyddog i beidio â dwyn achos, gan dderbyn nad oedd y dystiolaeth o blaid y Cyngor, a rhoi’r gorau i unrhyw hawliad i adennill yr arian a wariwyd er mwyn adeiladu to newydd."

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o awgrymiadau am ddyluniad adeiladau newydd i'r dyfodol, yn cynnwys gwahardd toeau 'gwyrdd' mewn unrhyw adeilad.
Cafodd to amgylcheddol 'gwyrdd' ei adeiladu yn y ganolfan - gyda phlanhigyn bywlys ('sedum') arno, sy'n cefnogi bioamrywiaeth naturiol.
"Wrth symud ymlaen ni fydd unrhyw adeiladwaith to sy’n cynnwys paneli insiwleiddio strwythurol (SIPS) to oer nac unrhyw doeau ‘gwyrdd’ yn y dyfodol. Ers i Ganolfan Addysg y Bont gael ei hadeiladu yn 2013, mae’r Adran Eiddo wedi cwblhau 5 ysgol arall ac nid oedd toeau oer na gorchudd to gwyrdd ar yr un ohonynt."
Mae awdur yr adroddiad yn nodi y dylid sicrhau bod cyfrifoldeb am ddylunio toeau adeiladau o hyn allan "yn eistedd gydag un parti yn unig."
Ac mae'n pwysleisio hefyd bod nifer o wersi wedi eu dysgu ers darganfod fod to'r ysgol wedi methu. Y gwersi hynny oedd:
• Y math o do a'r angen i gynnwys adeiladu a gorffeniadau'r to fel pecyn dylunio ac adeiladu penodol a gomisiynwyd gan ddylunwyr/gosodwyr
arbenigol.
• Cynnal gweithdai dylunio i hwyluso adolygiadau gan gymheiriaid.
• Darparu hyfforddiant priodol i swyddogion sy'n ymwneud â phrynu a dyluniad adeiladau newydd.
• Gwella trefniadau cadw dogfennau.
• Adolygu'r trefniadau parhad busnes ar gyfer yr ysgol
Mae Canolfan y Bont yn darparu addysg arbenigol i ddisgyblion rhwng tair a 19 oed, ac yn 2016, ac fe gafodd gymeradwyaeth arbennig am ei rhinweddau amgylcheddol.
Fe wnaeth Newyddion S4C ofyn am ymateb gan Gyngor Môn i gynnwys yr adroddiad.
Mewn ymateb fe gyfeiriodd y cyngor at ddolen i gofnodion y cyfarfod pan gafodd yr adroddiad ei drafod yn ystod yr haf.