Amy Dowden: 'Efallai na fyddwn i yma' heb wirio symptomau canser

Amy Dowden

Mae'r ddawnswraig broffesiynol Amy Dowden wedi dweud "efallai na fyddwn i yma" pe na bai hi wedi gwirio symptomau canser y fron.

Roedd y ddawnswraig o Gaerffili yn 32 oed pan gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2023.

Fe aeth hi i weld meddyg ar ôl darganfod lwmp yn ei brest ddiwrnod cyn ei mis mêl.

Wrth siarad ar drothwy cyfres newydd Strictly Come Dancing sydd yn cychwyn nos Sadwrn, dywedodd efallai na fyddai hi'n fyw heddiw os na fyddai wedi gwirio am ganser.

"Doeddwn i erioed wedi meddwl yn 32 oed y byddwn i wedi cael diagnosis canser y fron," meddai wrth bodlediad Breast Cancer Uncovered.

"Ac mae'n bryderus i feddwl os nad oeddwn i wedi gwirio fy hun, efallai na fyddwn i yma heddiw.

"Doeddwn i ddim yn gwybod os fyddwn i'n mynd i allu dawnsio eto neu gweithio eto. Roedd yn gyfnod brawychus.

"Dwyt ti ddim yn gwybod pryd wyt ti'n mynd i wella, a does dim sicrwydd bod hynny'n mynd i ddigwydd."

Image
Amy Dowden
Amy Dowden tra'n derbyn triniaeth yn yr ysbyty. Llun: Amy Dowden/Instagram.

Fe wnaeth hi ddychwelyd i gyfres Strictly yn 2024, ond roedd yn rhaid iddi gamu 'nôl ar ôl anafu ei throed.

Gyda chyfres 2025 yn dychwelyd nos Sadwrn, dywedodd Amy ei bod "eisiau codi ymwybyddiaeth" am ganser y fron.

Ychwanegodd ers iddi orffen triniaeth chemotherapi bron i ddwy flynedd yn ôl ei bod yn teimlo'n "gryfach nag erioed".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.