
Neges gwaith Kate Roberts 'yr un mor gyfoes' ag erioed
Mae’r actores Sera Cracroft wedi dweud bod gwaith yr awdures Kate Roberts yr un mor gyfoes ag erioed i fenywod wrth ddathlu can mlwyddiant cyhoeddi ei chyfrol 'O Gors y Bryniau'.
Ddydd Sadwrn bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yn ei phentref genedigol Rhosgadfan, Gwynedd, fel rhan o Ŵyl Cofio Kate Roberts.
Ac am 19.00 yn Neuadd Bentref Rhostryfan, fe fydd Sera Cracroft yn dychwelyd i’r llwyfan wrth iddi chwarae rôl yr awdures ac adrodd ei hanes mewn sioe ddrama un ddynes, Kate.
Fel un o awduron Cymraeg mwyaf blaenllaw'r 20fed canrif, roedd Dr Kate Roberts, 'Brenhines ein Llên', yn benderfynol o roi llais i’r bobl werin drwy ei gwaith.
Gyda nofelau fel 'Traed mewn Cyffion', roedd hi’n dangos cryfder menywod mewn ffordd nad oedd yn cael ei adrodd ar y pryd, meddai Sera.

“Dwi’n meddwl bod hi ‘di cael ei beirniadu’n fwy llym na fyddai dyn yn ei gwaith hi,” meddai.
“Am fod hi fel ‘na a ddiflewyn ar dafod ‘odd hi’n cael ei phortreadi fel rhywun reit gas.
“Ond mae 'na reswm pam mae pobl yn ymddwyn fel ‘na a dwi’n meddwl mai ‘sgwennu oedd ei dihangfa hi.
“Pan ‘da ni’n meddwl amdani dylwn ni meddwl am ei gwaith, am pwy oedd hi’n portreadu.
“Oedd y merched yn gryf iawn yn ei gwaith hi, oedd bywyd dosbarth gweithiol, bywyd y chwarelwyr, pobl wledig o gwmpas ei chartref yn Nghae’r Gors – mae’n portreadi nhw ag yn ddiflewyn ar dafod.
“Mae’n bwysig i ferched i weld bod ‘na ddynes wedi ‘sgwennu yr adeg hynny – a bod e’n bwysig bod merched yn ‘sgwennu am sut maen nhw’n teimlo, a bechgyn hefyd mewn ffordd.”

'Uniaethu'
A hithau wedi siarad yn agored am ei heriau iechyd meddwl ei hun, dywedodd Sera ei bod wedi gallu uniaethu gyda Kate Roberts yn ystod ei chyfnod yn ei phortreadu.
“Dwi’n meddwl bod hi di cael ei chamddehongli a’i chamddeall. ‘Odd hi’n ddynes gymhleth, odd hi’n ddynes beniog iawn, iawn.
“Pan da chi’n meddwl amdani, odd hi’n ferch i chwarelwr a ‘nath hi ennill ysgoloriaeth i fynd i’r ysgol sir a wedyn y brifysgol ym Mangor.
“‘Odd hi’n gallu bod yn flin ac yn reit bigog. ‘Odd hi’n dioddef gyda’i hiechyd meddwl ag oedd hwnna ddim yn rhywbeth oedd pobl yn drafod llawer adeg hynny.”
Mae’r actores, sy’n wyneb adnabyddus i wylwyr Pobol y Cwm, yn dychwelyd i’r rôl yn dilyn cyfnod o deithio gyda’r sioe ddrama'r llynedd.
“Dwi’n teimlo fel bod fi’n ‘nabod y Kate sydd ynddo fo a dwi’n gallu uniaethu gyda hi… mi ddath o nôl reit handi,” meddai.

'Angen dysgu'
Cynhyrchiad gan gwmni Mewn Cymeriad yw Kate a’r dramodydd Janet Aethwy a wnaeth ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo.
Ac mae themâu’r sioe, ynghyd a neges Kate Roberts, yn parhau i fod o bwys hyd heddiw, meddai Sera.
“Efo beth sy’n digwydd yn y byd… bod ‘na bobl pwerus, dynion pwerus yn rheoli pethau a fel digwyddodd adeg hynny a’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd a’r gymaint o ddinistr ddigwyddodd.
“Mae’n portreadi hynny’n dda iawn, yn enwedig mewn 'Traed mewn Cyffion'.
“Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn dysgu am ein hanes ni a’r llanast mae rhyfel yn gallu achosi i bobl a chymdeithasau.”
