Estonia'n galw am gyfarfod brys o Nato
Mae Estonia wedi galw am gyfarfod brys o Nato wedi i awyrennau rhyfel Rwsia hedfan i ofod awyr y wlad ddydd Gwener.
Fe wnaeth tair awyren MiG-31 Rwsia hedfan i diriogaeth Estonia, gan aros yno am 12 munud, cyn hedfan i ffwrdd.
Mae llywodraeth Estonia wedi galw'r digwyddiad yn weithred hy.
Fe aeth awyrennau rhyfel yr Eidal, y Ffindir a Sweden i'r awyr mewn ymateb yn ystod y digwyddiad.
Mae Nato wedi beirniadu'r hyn ddigwyddodd fel ymddygiad rhyfygus ar ran Rwsia - ond mae'r Kremlin wedi dweud mai hediadau cyffredin oedd wedi eu trefnu o flaen llaw oedd yr hyn ddigwyddodd.
Mae'r datblygiad yn gam arall gan Rwsia i bwyso a mesur ymateb milwrol Nato yn y rhanbarth.
Dyma'r ail waith i un o aelodau Nato alw am gyfarfod 'Erthygl 4' y mis hwn.
Mae 'Erthygl 4' yn cyfeirio at drafodaethau brys ymysg y 32 o aelodau'r gynghrair filwrol pan fod bygythiad i un ohonynt.
Fe wnaeth 19 o ddronau Rwsia hedfan i mewn i awyr ofod Gwlad Pwyl yn gynharach yn y mis.
Cafodd hyd at bedwar o'r dronau eu saethu i lawr gan awyrennau NATO a Gwlad Pwyl yn y digwyddiad hwnnw.
Dyma oedd y tro cyntaf i un o wledydd sydd yn aelod o NATO orfod ymyrryd gyda dronau Rwsia ers i'r rhyfel yn Wcráin gychwyn yn 2022.
Cafodd pedwar o feysydd awyr Gwlad Pwyl eu cau gan gynnwys maes awyr y brifddinas, Warsaw.
Llun: PA