
Angen buddsoddi yn yr A470 er mwyn 'tyfu economi'r wlad'
Mae angen gwelliannau i'r brif ffordd sy'n cysylltu'r de a'r gogledd yng nghanolbarth Cymru os am “ddatblygu a thyfu economi’r wlad”.
Dyna’r alwad gan rai o gynghorwyr Cyngor Sir Powys yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau eleni sydd wedi gorfodi i ffordd yr A470 i fod ar gau am gyfnodau.
Roedd y ffordd ar gau rhwng Talerddig a Dolfach am gyfnod o dri mis yn gyngharach eleni rhwng Ionawr ac Ebrill er mwyn cynnal gwaith i adfer y ffordd, gan olygu dargyfeiriad 70 milltir i deithwyr.
Roedd hynny er mwyn atgyweirio wal a ddisgynnodd mewn i afon yn Hydref 2023, gan adael twll ar ochr y ffordd a goleuadau traffig am dros flwyddyn.
Wythnos ddiwethaf, roedd y ffordd ar gau am dros chwe awr pan aeth lori yn sownd o dan bont reilffordd ym Mhontdlogoch, ger Caersws.
Roedd oedi ar y rheilffyrdd yn ogystal, gyda gwasanaethau rhwng y Drenewydd ac Aberystwyth wedi eu gohirio am gyfnod.
Yn ôl Network Rail, mae’r bont wedi ei tharo 22 o weithiau gan gerbydau ers 2009. Maen nhw'n dweud eu bod yn gweithio i wella "arwyddion a gwelededd" ar y bont.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y ffordd, ac fe ddywed llefarydd "y bydd sawl man ar yr A470 yn y canolbarth, gan gynnwys Caersws a Phontybat, yn elwa o welliannau yn y dyfodol.
'Dim yn addas'
Mae dau cynghorydd sir yn yr ardal wedi galw am welliannau ar y ffordd, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi “tanfuddsoddi” yn y rhannau o’r ffordd yn y canolbarth, o’i gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru.
Dywedodd y cynghorydd Elwyn Vaughan y byddai ef a’r cynghorydd Les George yn pwyso ar y cyngor i drafod gyda’r Llywodraeth yn benodol am y problemau “parhaus” ym Mhontdolgoch.

“Dwi yn meddwl bod eisiau buddsoddi mwy yn y rhan yna o’r A470 drwy Bowys," meddai Mr Vaughan.
"A dwi ddim yn sôn bod eisiau gwario cannoedd o filiynau ond mi alle neud gwahaniaeth sylweddol targedu’r gwariant mewn llefydd penodol.
“Da ni wedi sôn am Pontdolgoch ond lle arall dwi’n meddwl dwi’n meddwl sy’n rhwystredig iawn ydi tref Rhaeadr, er enghraifft.
"Mae unrhyw un sydd wedi teithio o’r de i’r gogledd a mynd drwy Rhaeadr pan mae’r lorïau yn trio mynd trwyddo, yn cael hi’n anodd iawn, iawn.
“Dydi hi ddim yn addas ar gyfer gwlad fodern sydd eisiau datblygu a thyfu economi, a hwyluso cludiant yn ôl ac ymlaen.”
Dywedodd bod angen ystyried syniadau amgen er mwyn hwyluso llif traffig yn yr ardal.
“Dwi’n meddwl mae werth ystyried oes angen tynnu ambell adeilad i lawr i hwyluso pethau.
"Hefyd dwi’n meddwl mae’r model yn Iwerddon yn ddiddorol iawn, lle os ti’n teithio o Ddulyn i Galway er enghraifft, nid fod na ffyrdd ddeuol ond maen nhw fel petai eu bod wedi lledu mewn rhai llefydd fel bod modd pasio yn hwylus, lle mae cerbydau yn tynnu i mewn ac mae cerbydau yn gallu pasio’n ddiogel."
'Trafferthus iawn'
Dywedodd ei fod wedi gweld "gwahaniaeth enfawr" ar yr A470 yn y gogledd dros y 10 mlynedd diwethaf, ar ôl adeiladu ffyrdd osgoi yng Nghaernarfon, Dyffryn Nantlle a Phorthmadog.
"Ond unwaith ti’n cael i mewn i Bowys, mae’n fater arall," meddai. "Ti angen mynd trwy bentrefi, mae’n ffordd droellog.
“Oes, mae gwelliannau wedi digwydd, fel ffordd osgoi Llanidloes a’r ffordd Newbridge on Wye fel ti’n mynd am safle’r sioe, ond unwaith ti’n cyrraedd safle’r sioe, mae gen ti ddarn gwael iawn heibio Llanfair ym Muallt a lawr am Afon Gwy wedyn, tan ti’n cyrraedd Aberhonddu i bob diben.
“Mae hwnnw yn fan trafferthus iawn, a dyna pam da ni’n gweld pobol yn mynd dros y top heibio Llyn Clywedog lawr i Lanidloes er mwyn torri allan mynd i Gaersws a llefydd felly.
"Mae angen edrych ar glwstwr o welliannau ym Mhowys.”
'Peryg iawn'
Yn ôl y cynghorydd Les George, sydd yn berchen ar fusnes ym Mhontdolgoch, mae’r damweiniau rheolaidd wedi amharu ar ei fusnes a’r gymuned yn ehangach.
“Mae’r loris mawr 44 tunnell ‘ma’n ceisio mynd o dan y bont, ddim yn medru mynd drwyddi, ac mae’r llinell o gerbydau yn ymestyn tu ôl iddo yn ddifrifol," meddai.

“Mae’r ffordd yn droellog iawn, ac mae’r traffig yn ceisio bagio nôl i fyny’r lôn, o gwmpas y troelliadau yma. Mae’n beryg iawn, iawn.
“Fel busnes, da ni wedi cael llond bol o’r nifer fawr o gerbydau mawr sydd dim yn gallu mynd o dan y bont, ac sy’n dod ar iard ni er mwyn troi rownd.
"Maen nhw ar ein hiard o wyth yn y bore i chwech o gloch yn nos, ac rydym yn dibynnu’n llwyr ar deliveries i’r depo er mwyn cyflenwi’r busnes. Mae’n effeithio ar y busnes cryn dipyn. Mae’n hynod o drafferthus."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae trwsio ffyrdd a chysylltu cymunedau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
"Rydym yn buddsoddi £25m ychwanegol i drwsio ac atal tyllau yn y ffyrdd ar draws Cymru – gan gynnwys ar yr A470 yn Blaenau Ffestiniog, Clatter a Storey Arms.
"Rydym hefyd wedi galluogi awdurdodau lleol i gael mynediad at £120m i drwsio ffyrdd lleol.
“Mae buddsoddiad yn y rhwydwaith ffyrdd yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae ein data wedi nodi sawl lleoliad ar hyd yr A470 fydd yn elwa o welliannau, gan gynnwys Caersws a Phontybat.”
Prif lun: Lori yn sownd o dan bont rheilffordd Pontdolgoch ar yr A470 ar 10 Medi.