Yr Eglwys yng Nghymru angen bod yn fwy 'gonest a thryloyw' medd Archesgob Cymru

ITV Cymru
Cherry Vann

Mae Archesgob Cymru wedi dweud bod angen i'r Eglwys yng Nghymru fod yn fwy "agored, atebol, gonest a thryloyw".

Mewn cyfweliad gydag ITV Cymru nos Iau, dywedodd yr Archesgob Cherry Vann bod angen i'r Eglwys hefyd fod â pholisiau a chamau llywodraethu cywir yn eu lle.

Fe ddaw ei sylwadau yn dilyn cyfnod cythryblus i'r Eglwys, gyda disgwyl cyhoeddi dau adroddiad yn y misoedd nesaf ar ddwy sgandal ddiweddar o fewn yr Eglwys.

Bydd canfyddiadau un adroddiad yn edrych ar ymateb yr Eglwys i honiadau yn erbyn y cyn-Esgob Anthony Pierce. Cafodd ei garcharu ym mis Mawrth eleni am droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant. 

Bydd yr adroddiad hwnnw'n cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig meddai Ms Vann.

Mae ymchwiliad arall yn edrych ar ddigwyddiadau yn ymwneud â Chadeirlan Bangor.

Cafodd Ms Vann ei phenodi'n Archesgob newydd ar ddiwedd mis Gorffennaf, gan olynu Andy John.

Ymddiswyddiad

Fe gyhoeddodd Andy John y byddai yn rhoi'r gorau i'w waith fel Archesgob Cymru ac fel Esgob Bangor ar unwaith ym mis Mehefin, wedi i ddau grynodeb o adroddiad gael eu cyhoeddi oedd yn ymwneud â methiannau yn ei esgobaeth.

Roedd y crynodebau’n cyfeirio at "ddiwylliant lle’r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur", yfed alcohol yn ormodol, a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu.

Wrth drafod yr her o greu newid sefydliadol o fewn yr Eglwys gydag ITV Cymru, dywedodd yr Archesgob bod y gwaith am fod yn dasg fawr iddi:

"Ydy, mae am fod yn waith mawr. Rwy'n credu ei fod yn waith sylweddol i unrhyw gorff, i unrhyw sefydliad achos mae diwylliant y sefydliad yn penderfynu sut yr ydym yn ymddwyn gyda'n gilydd, a sut mae pethau'n cael eu gwneud.

"Fy nheimlad i yw bod gennym ni waith i'w wneud fel Eglwys sydd angen i ni fod yn fwy agored, atebol, gonest a thryloyw gyda'n gilydd, ynghyd â bod a pholisiau a chamau llywodraethu cywir yn eu lle."

Ychwanegodd bod yn rhaid i'r Eglwys gymryd yr hyn sydd wedi digwydd o ddifrif, a hefyd dangos edifeirwch am y digwyddiadau, a derbyn y methiannau, ond bod hyn yn gyfle am "ddechrau newydd."


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.