Ail geisiwr lloches wedi ei hedfan y ôl i Ffrainc
Mae'r ail achos o hedfan ceisiwr lloches yn ôl i Ffrainc o dan gytundeb "un i mewn, un allan" y Llywodraeth wedi digwydd yn gynnar fore dydd Gwener, wedi i'r ceisiwr lloches golli her gyfreithiol yn erbyn y cam.
Bydd y datblygiad diweddaraf yn rhyddhad i Lywodraeth y DU yng nghanol pwysau cynyddol i fynd i'r afael â'r argyfwng cychod bach, gyda Donald Trump yn awgrymu y dylai Syr Keir Starmer ddefnyddio'r fyddin i'w hatal rhag croesi o Ffrainc.
Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau yn ystod ei ymweliad gwladol â'r DU y dylai'r Prif Weinidog "gymryd safiad cryf iawn" ar fewnfudo sy'n "ei frifo'n fawr iawn".
Cafodd ceisiwr lloches o Eritrea, a gyrhaeddodd y DU ar gwch fis diwethaf, ei anfon i Ffrainc am 06.15 fore Gwener ar ôl colli cais cyfreithiol yn yr Uchel Lys i atal hyn rhag digwydd.
Daw hyn ddiwrnod ar ôl yr achos cyntaf o alltudio mewnfudwr o dan y cynllun, a ddaeth i rym y mis diwethaf ac sy'n ceisio symud y rhai a groesodd Sianel Lloegr yn ôl i'r cyfandir.
Mae hyn mewn ctundeb cyfnewid am y rhai sy'n gwneud cais yn Ffrainc ac sy'n cael eu cymeradwyo i ddod i Brydain.
Dywedodd y Swyddfa Gartref y bydd y DU "yn derbyn mewnfudwyr cyfreithlon trwy lwybr diogel newydd yn y dyddiau nesaf".
Cafodd dyn a gyrhaeddodd y DU mewn cwch ym mis Awst ei roi ar awyren i Ffrainc fore dydd Iau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Shabana Mahmood fod y daith gyntaf yn dangos i bobl sy'n croesi'r Sianel "os byddwch chi'n dod i mewn i'r DU yn anghyfreithlon, byddwn ni'n ceisio eich symud".
Dywedodd y byddai'n "parhau i herio unrhyw ymdrechion munud olaf i rwystro'r symud drwy'r llysoedd".