Cwynion am oedi hir cyn cael prawf gyrru yng Ngwynedd

Glain Tudur

Mae oedi hir wrth archebu profion gyrru yn achosi trafferthion i ddysgwyr mewn rhai trefi yng Ngwynedd.

Mae dysgwyr ym Mhwllheli, Bangor a'r Bala wedi wynebu trafferthion yn ddiweddar.

Dywedodd un gyrrwr sy'n dysgu, Glain Tudur, 20 oed, o Landwrog, ei bod wedi "cael digon" o ddibynnu ar eraill i'w chludo hi o un lle i'r llall.

Dywedodd: "Rwyf wedi bod yn cael gwersi gyrru bron yn wythnosol ers mis Ebrill ac rwyf bellach yn hyderus ac yn barod i sefyll fy mhrawf.

"Dechreuais chwilio am brofion yn ôl ym mis Mehefin ac nid oedd unrhyw le ar gael mewn unrhyw ganolfan brawf yng Ngwynedd o gwbl.

"Fe wnaeth fy ffrind awgrymu i mi archebu prawf yn unrhyw le yn y DU a lawrlwytho apiau sy'n cynnig canslo."

Ychwanegodd: "Rwyf bellach wedi llwyddo i archebu prawf ar gyfer mis Chwefror 2026, ond mae yn Aberystwyth ac ers hynny rwyf wedi lawrlwytho tri ap gwahanol sydd mewn partneriaeth â'r DVSA i hysbysu am ganslo - gan dalu bron i £20 i gael y gorau o'r apiau mewn ymdrech i sicrhau prawf yma yng Ngwynedd.

"Ers wythnosau, rwyf wedi bod yn codi'n gynnar iawn i chwilio am brofion sydd ar gael yng Ngwynedd ond nid wyf wedi sicrhau slot eto.

"Mae cymaint o alw a chyn lleied o slotiau wedi'u rhyddhau fel eu bod yn cael eu cymryd ar unwaith."

Image
LSR
Liz Saville Roberts AS

Mae'r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts o Blaid Cymru wedi ysgrifennu at yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA) wedi cwynion cynyddol yn ei hetholaeth yn Nwyfor Meirionnydd.

Mae hyfforddwyr a dysgwyr gyrru lleol wedi dweud wrthi nad oes lle i gael profion am o leiaf dri mis. 

Nid yw dysgwyr chwaith wedi gallu archebu slot dri mis ymlaen llaw.

Mae'r oedi wedi golygu bod yn rhaid i fyfyrwyr ailsefyll eu harholiad theori oherwydd y bydd wedi dod i ben erbyn iddynt sefyll eu prawf ymarferol.

Mae Mrs Saville Roberts wedi galw ar yr Asiantaeth Safonau Gyrru a'r Adran Drafnidiaeth i adolygu ar frys a yw'r adnoddau presennol yn bodloni'r galw cynyddol yn ddigonol ac a oes opsiynau eraill ar gael.

Dywed bod yr Asiantaeth Safonau Gyrru wedi bwriadu torri amseroedd aros i saith wythnos erbyn diwedd 2025 ond mae oedi parhaus wedi golygu bod y llywodraeth ar fin methu ei tharged gwreiddiol ar gyfer amseroedd aros am brawf.

Dywedodd Liz Saville Roberts : “Dywedwyd wrthyf gan hyfforddwyr gyrru lleol, wrth geisio archebu prawf gyrru i’w myfyrwyr, eu bod yn wynebu system archebu nad yw’n darparu unrhyw slotiau gwag mewn canolfannau lleol yng Ngwynedd, sef Pwllheli, y Bala, a Bangor.

“Mae Dwyfor Meirionnydd yn etholaeth fawr, wledig. Os nad oes darpariaeth ym Mhwllheli na’r Bala, yna disgwylir i’r rhai sy’n dymuno sefyll eu prawf deithio sawl awr i’r ganolfan agosaf – heb unrhyw sicrwydd o le yno chwaith.

“Dylai’r DVSA a’r Adran Drafnidiaeth adolygu ar frys a yw’r adnoddau presennol yn diwallu’r galw cynyddol yn ddigonol ac a gafodd unrhyw un o’r 10,000 o brofion ychwanegol a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth ym mis Ebrill eu dyrannu i ganolfannau prawf yng Ngwynedd."

Dywedodd Loveday Ryder, Prif Weithredwr DVSA: “Mae DVSA yn cymryd camau pendant i leihau amseroedd aros profion gyrru.

“Rydym yn darparu mwy o brofion, gan wneud archebu’n decach, yn paratoi dysgwyr, ac yn rhoi terfyn ar brofion gwastraffus.

“Er bod ffordd bell i fynd o hyd, rydym wedi darparu miloedd o brofion ychwanegol bob mis ers mis Mehefin ac rydym wedi ymrwymo’n gadarn i helpu gyrwyr i gael gwared ar eu platiau L cyn gynted ag y byddant yn barod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.