Heddlu Wrecsam yn gwireddu breuddwyd merch ifanc sydd â chanser y galon
Mae tîm pêl-droed swyddogion yr heddlu o Wrecsam wedi llwyddo i wireddu breuddwyd merch ifanc 13 oed sydd â math prin o ganser.
Mae Lexi'n 13 oed ac yn dioddef o ganser ar ei chalon. Mae'n fath prin o ganser ac yn un ffyrnig iawn.
Yn ystod y misoedd diwethaf mae hi wedi dioddef dwy lawdriniaeth calon ac mae hi bellach yn cael cemotherapi dwys ar ôl derbyn teclyn i reoli curiad ei chalon.
Gobaith ei theulu sy'n byw ar Lannau Dyfrdwy oedd y byddai modd iddi deithio i Efrog Newydd pan fydd yn ddigon iach i wneud hynny.
Mae tîm pêl-droed swyddogion heddlu Wrecsam wedi sefydlu cronfa ar gyfer hyn, a'r gobaith yw casglu £20,000 ar ei rhan.
Cafodd y teulu rodd o £10,000 at eu hymdrechion gan un o gyd-berchnogion CPD Wrecsam, Ryan Reynolds.
Yn dilyn gêm bêl-droed gan yr heddlu lleol y penwythnos diwethaf, mae'r coffrau wedi chwyddo i £13,000 erbyn hyn, a'r disgwyl yw y bydd Lexi a'i theulu nawr yn gallu teithio dros yr Iwerydd pan fydd hi'n ddigon cryf i wneud hynny.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd mam Lexi, Becky Collins, fod y teulu'n hynod o ddiolchgar am yr holl gefnogaeth.
"Rydw i wedi fy syfrdanu'n llwyr gan garedigrwydd a haelioni chi gyd, o achos chi i gyd bydd fy merch hardd yn cael gweld Efrog Newydd (croeswch bopeth y bydd hi'n ddigon da!)
"Mae Lexi eisiau diolch i bawb, mae hi'n sicrhau ei bod hi'n llwyddo gyda'i chemotherapi, oherwydd yn ei geiriau hi 'Dydw i ddim yn gadael i ganser fy atal rhag mynd i Efrog Newydd!'
Mae hi eisoes yn dewis ei gwisgoedd, mae ganddi restr o bethau y mae hi eisiau eu gweld, ac fe wnaethon ni hyd yn oed wylio 'Home Alone' (ETO) neithiwr."
Llun gan Becky Collins