Newyddion S4C

Rhan o'r A470 yn y canolbarth yn ailagor wedi gwaith atgyweirio

11/04/2025
Y ffordd ar ei newydd wedd

Bydd rhan o ffordd yr A470 sydd wedi bod ar gau yng nghanolbarth Cymru ers rhai misoedd yn ailagor ddydd Gwener.

Daw hynny wedi i'r ffordd rhwng Talerddig a Dolfach gau ar frys ym mis Hydref 2023 er mwyn atgyweirio wal a ddisgynnodd i mewn i afon, gan adael twll ar ochr y ffordd.

Roedd y gwaith yn golygu dargyfeiriad hir o 70 milltir i deithwyr, gan fynd â nhw trwy Gaersws, y Drenewydd a'r Trallwng cyn ailymuno a'r A470 ym Mallwyd.
 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd goleuadau traffig nawr yn cael eu hailosod ar y safle tra bod rhwystr diogelwch yn cael ei osod. 

Hefyd bydd yr holl fesurau rheoli traffig wedi'u symud o'r safle erbyn 30 Ebrill, meddai'r llywodraeth.

Cafodd gwaith atgyweirio brys, oedd yn ddatrysiad dros dro, ei gynnal ar y pryd er mwyn ailagor y ffordd.

Ond roedd angen cau'r ffordd yn gyfan gwbl rhwng 20 Ionawr ac 11 Ebrill er mwyn cwblhau'r gwaith atgyweirio.

Mewn datganiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates ddydd Llun: "Rwy'n deall y problemau mae'r gwaith hwn wedi'u hachosi a hoffwn i ddiolch i fodurwyr a thrigolion lleol am eu hamynedd wrth i'r gwaith gael ei wneud.

"Fodd bynnag, roedd yn hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud ar yr adeg hon er mwyn sicrhau y gall y ffordd barhau i fod ar agor yn y blynyddoedd i ddod.

"Hoffwn i hefyd ddiolch i Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a'u cadwyn gyflenwi am eu gwaith caled i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn ôl yr amserlen ac yn lleihau lefel y tarfu cymaint â phosibl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.