‘Sensoriaeth’: Atal sioe Jimmy Kimmel ar ôl sylwadau am saethu Charlie Kirk

Jimmy Kimmel

Mae undeb wedi condemnio “sensoriaeth gan y wladwriaeth” wedi i sioe Jimmy Kimmel gael ei atal gan y darlledwr ABC ar ôl iddo wneud sylwadau am saethu'r ymgyrchydd gwleidyddol Charlie Kirk.

Roedd y digrifwr wedi dweud wrth ei gynulleidfa fod "llawer ym myd MAGA yn gweithio'n galed iawn i fanteisio ar lofruddiaeth Charlie Kirk".

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump ymysg y rheini sydd wedi croesawu’r penderfyniad.

Ond mae’r undeb sy’n cynrychioli cerddorion ar raglen Jimmy Kimmel wedi cyhoeddi datganiad yn dweud ei fod yn “sensoriaeth gan y wladwriaeth”.

Dywedodd Cymdeithas Cerddorion yr Unol Daleithiau ei fod yn “ymosodiad uniongyrchol ar ryddid barn a mynegiant” gan Lywodraeth Donald Trump.

Tynnodd rhwydwaith ABC y sioe yn ôl ar ôl i sawl gorsaf gysylltiedig wrthod ei darlledu, gan wrthwynebu’r sylwadau a wnaeth Kimmel yn ystod sioeau ddydd Llun a dydd Mawrth.

Cafodd Charlie Kirk ei saethu yn ystod digwyddiad ar gampws Prifysgol Utah ar Fedi 10.

Fe ymddangosodd Tyler Robinson, 22, o flaen llys ddydd Mawrth, i wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd yr Arlywydd Trump ei fod yn canmol y penderfyniad.

“Llongyfarchiadau i ABC am gael y dewrder o'r diwedd i wneud yr hyn oedd yn rhaid ei wneud,” meddai.

Ond galwodd Llywodraethwr Democrataidd California, Gavin Newsom, y tueddu at ganslo sioeau a diswyddo sylwebyddion yn “beryglus”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.