Gweithwyr Ofgem yng Nghaerdydd i fynd ar streic

Tŷ William Morgan

Mae undeb wedi dweud y bydd eu haelodau yn swyddfa Ofgem yng Nghaerdydd yn mynd ar streic ar ddiwedd y mis.

Bydd gweithwyr y rheoleiddiwr ynni Ofgem yn cynnal wythnos o streic mewn anghydfod sy’n dwysáu ynghylch cyflog, swyddi ac amodau gwaith.

Dywedodd undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) y bydd aelodau yn swyddfeydd Ofgem yng Nghaerdydd, Llundain a Glasgow yn mynd ar streic o Fedi 29 i Hydref 3.

Mae gan Ofgem swyddfa yn Nhŷ William Morgan yn Sgwâr Canolog Caerdydd.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol PCS, Fran Heathcote: “Bydd y streic yn gynnydd sylweddol yn yr anghydfod gan aelodau’r PCS yn Ofgem

“Mae llinellau piced yn cael eu trefnu ledled y DU a dros 100 o aelodau newydd wedi ymuno â'r gangen ers dechrau’r anghydfod.”

Dywedodd llefarydd ar ran Ofgem eu bod nhw’n “siomedig” gyda phenderfyniad y PCS i gefnogi gweithredu diwydiannol pellach.

“Mae tua thraean o weithlu Ofgem yn aelodau o'r PCS, ac rydym yn parhau i gyfathrebu â nhw a'n holl staff mewn modd adeiladol i ddod o hyd i atebion teg a chynaliadwy sy'n adlewyrchu anghenion ein pobl a'r sefydliad," medden nhw.

“Fel gyda gweddill y sector cyhoeddus, mae’n hanfodol ein bod ni’n gweithredu mewn modd mor effeithlon â phosibl ar gyfer y cartrefi a’r busnesau rydyn ni’n eu gwasanaethu, gan sicrhau hefyd ein bod ni’n denu ac yn cadw’r bobl a’r sgiliau sydd eu hangen arnom.

“Ein blaenoriaeth yw lleihau’r aflonyddwch i’r hyn rydym yn ei wneud a’n parhau i wasanaethu defnyddwyr ledled Prydain.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.