Storm drofannol yn taro Haiti wedi i gannoedd farw yn dilyn daeargryn

Mae Haiti yn wynebu bygythiad o storm drofannol ychydig ddyddiau yn unig ar ôl i ddaeargryn daro'r wlad.
Mae dros 700 o bobl wedi marw yn dilyn y daeargryn ddydd Sadwrn, oedd yn mesur 7.2 ar raddfa Richter.
Mae pryderon y bydd Storm Drofannol Grace yn taro'r ynys rhwng dydd Llun a dydd Mawrth, gydag ofnau y bydd yn amharu ar yr ymdrechion achub wedi'r daeargryn.
Fe ddywedodd swyddogion brynhawn dydd Sul bod 724 o bobl wedi marw a dros 1,800 o bobl wedi brifo o achos y daeargryn, yn ôl The Independent.
Mae'r wlad yn parhau i geisio adfer ar ôl i ddaeargryn difrifol arall daro'r wlad yn 2010, a laddodd 220,000 o bobl.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Twitter / José Flecher