Pwllheli: Hwb i fenter gymunedol ar ôl derbyn arian grant
Mae menter gymunedol ym Mhwllheli wedi derbyn hwb sylweddol ar ôl derbyn arian grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Bwriad Menter y Tŵr yw trawsnewid hen adeilad yn y dref i fod yn westy, hwb cymunedol a chanolfan treftadaeth ar y stryd fawr.
Mae'r cynllun wedi derbyn grant o £215,790 meddai trefnwyr y fenter, ac fe fydd "yn cefnogi datblygu’r prosiect dros y 12 mis nesaf, gan baratoi’r ffordd ar gyfer cais llawn y Cam Cyflawni."
Bydd y cais Cam Cyflawni yn cael ei gyflwyno o fewn y flwyddyn, gyda’r nod o sicrhau buddsoddiad cyfalaf i wireddu’r weledigaeth a thrawsnewid Y Tŵr ar gyfer
y dyfodol.
'Hanfodol'
Dywedodd Carys Owen, Cadeirydd Menter y Tŵr: “Rydym wrth ein bodd o fod wedi sicrhau’r gefnogaeth hanfodol hon gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
"Bydd y grant hwn yn ein galluogi i weithio gyda phartneriaid, ymgynghorwyr a’n cymuned i lunio’r prosiect yn fanwl, gan sicrhau ei fod yn gynaliadwy, yn hygyrch ac yn diwallu anghenion ein cymuned nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn hynod ddiolchgar i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n gwneud hyn yn bosibl.”
Bydd y dyfarniad o £215,790 yn ariannu gwaith cynllunio busnes manwl, cynllunio pensaernïol a dylunio, gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned, a datblygu cynllun dehongli a gweithgareddau i sicrhau bod y prosiect yn creu buddion hirdymor.
Gobaith Menter y Tŵr yw creu canolfan gymunedol a threftadaeth fywiog yng nghanol y dref, gan ddathlu ei hanes ac ar yr un pryd gynnig cyfleoedd newydd i ddysgu, lles a diwylliant.