Codi uchafswm o £100 ar gardiau di-gyffwrdd?

cerdyn credit (pixabay)

Mae'n bosib y bydd modd gwario mwy na £100 gan ddefnyddio cardiau di-gyffwrdd yn y dyfodol, pe tai cynnig gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn cael ei basio.

O dan y cynigion newydd fe allai banciau a darparwyr cardiau eraill benderfynu ar yr uchafswm y byddai unigolyn yn medru wario gyda chardiau di-gyffwrdd.

Does dim cyfyngiad ar faint mae person yn medru wario gyda ffôn clyfar. Mae gan ffonau clyfar fesurau diogelwch fel ôl bys neu adnabod wyneb yn eu lle ac mae'r ffordd yma o dalu yn cael ei ddefnyddio gan nifer o bobl erbyn hyn.

Cafodd cardiau di-gyffwrdd eu cyflwyno gyntaf yn 2007. £10 oedd y swm mwyaf y gallai person dalu'r adeg hynny. Ond ers 2021 £100 yw'r uchafswm wedi bod.

Mae hyn yn adlewyrchu'r newid yn y ffordd y mae pobl yn talu am nwyddau erbyn hyn. 

Mae pryderon wedi eu codi ynglŷn â'r posibilrwydd o dwyll a lladrata. Ond yn ôl yr FCA dim ond trosglwyddiadau gyda risg isel fyddai yn cael eu caniatáu os yw'r symiau ariannol yn uwch.

Cafodd ymgynghoriad ei gynnal gan yr FCA i gasglu barn cwsmeriaid a chyrff ynglŷn ag unrhyw newid i daliadau cardiau di-gyffwrdd.

Fe wnaeth y mwyafrif ddweud eu bod eisiau parhau talu gyda'r uchafswm sydd yn bodoli ar hyn o bryd.

Ond mae'r awdurdod wedi dweud nad ydynt yn disgwyl newidiadau cyflym ac y bydd darparwyr yn croesawu'r newid wrth i dechnoleg ddatblygu a phrisiau godi. Mae'n bosib hefyd y bydd cwsmeriaid yn medru penderfynu eu hunain faint o swm maent eisiau talu mewn un tro gyda chardiau di-gyffwrdd.

Os bydd y cynigion yn cael eu cymeradwyo fe allen nhw ddod i rym erbyn yn gynnar flwyddyn nesaf.

 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.