'Lladdfa gorfforol a meddyliol': Her dyn 65 oed i redeg arfordir Prydain

Her rhedeg arfordir Prydain Steve James

Mae cyn fanciwr sydd â chysylltiadau gyda Chymru yn gobeithio bod y dyn cyntaf dros 60 oed i redeg holl arfordir Prydain.

Hyd yn hyn mae Steve James, sy'n 65 oed wedi rhedeg 148 marathon ond ei darged yw rhedeg 200 marathon mewn 200 o ddiwrnodau.

Fe gychwynnodd o Topsham yn Nyfnaint Ebrill 16 a rhan nesaf ei daith yw Cymru.

"Dwi wedi bod yn edrych ymlaen at ran Cymru o'r daith fwy nag unrhyw rannau eraill. Mae fy nheulu yn Gymru i'r carn gydag ochr fy nhad yn siaradwyr Cymraeg o Sir Benfro ac mae ganddo ni dal eiddo yno," meddai.

"Llwybr arfordir Cymru yw un o'r llwybrau pellteroedd hir gwych yna sydd gyda ni a dwi'n edrych ymlaen at wneud yr 870 milltir.."

Ychwanegodd y bydd yn dringo Yr Wyddfa gyda'i ferch hynaf.  

Mae Mr James, sydd yn dad i bump o blant, yn rhedeg am tua chwe awr bob dydd gan aros yn achlysurol gyda'i wraig yn eu camper fan neu mewn llety arall.

Yn dilyn ei her mae ymchwilwyr o Brifysgol Exeter sydd yn cadw golwg ar effaith yr holl redeg ar ei gorff. 

Maen nhw'n edrych ar sawl peth- lefelau ei ocsigen, ei waed, calorïau mae'n cymryd a mesuriadau cyhyrau.

'Herio stereoteipiau'

Yn ôl Dr Freyja Haigh, un o'r ymchwilwyr o'r brifysgol mae'r hyn mae Steve yn ceisio ei wneud yn anhygoel.

"Mae'r hyn mae Steve yn gwneud yn herio'r stereoteipiau o heneiddio ac yn ailddiffinio'r hyn sydd yn bosib yn hwyrach mewn bywyd. Mae hefyd yn ddiddorol iawn o safbwynt y wyddoniaeth. Mae Steve yn rhoi cipolwg i ni o sut mae'r math yma o brawf gwytnwch yn effeithio corff person hŷn."

Yn ystod ei fywyd mae Mr James wedi hoffi gwneud heriau corfforol fel seiclo o gwmpas y byd mewn 220 o ddiwrnodau yn 2019.

Mae'n dweud ei fod yn "falch" o'r hyn mae wedi ei gyflawni hyd yn hyn.

"Mae wedi bod yn lladdfa yn feddyliol a chorfforol ond dwi wedi dod trwyddi a dwi'n llawer cryfach o achos hyn."

Nick Butter sydd yn dal y record ar hyn o bryd am redeg arfordir Prydain. Fe lwyddodd i orffen y dasg mewn 128 o ddiwrnodau yn 31 oed.

Ond Steve James yw'r person cyntaf dros 60 i geisio gwneud yr her. 

Llun: Prifysgol Exeter/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.