Rhybudd am lifogydd ar hyd arfordir Pen Llŷn a Bae Ceredigion
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd oren am lifogydd ar hyd arfordir Pen Llŷn a Bae Ceredigion.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar nifer o ardaloedd ar hyd yr arfordir – o Nefyn yng Ngwynedd, i'r Borth Uchaf yng Ngheredigion.
Mae disgwyl i'r rhybudd yma fod mewn grym o nos Fawrth hyd at ddydd Gwener, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
"Mae risg o lifogydd o ganlyniad i'r cyfuniad o dywydd garw a llanw uchel o 21.15 nos Fawrth," meddai llefarydd.
"Byddwch yn ofalus ar draethau, promenadau, llwybrau'r arfordir, ffyrdd a thir isel sy'n agos at yr aber.
"Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa. Bydd y rhybudd hwn yn parhau mewn grym am y tri diwrnod nesaf."
Daw'r rhybudd yn dilyn sawl rhybudd arall am lifogydd mewn rhannau eraill o'r wlad ar ddechrau'r wythnos.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, bydd y tywydd yn parhau'n ansefydlog wrth i law a chawodydd trymion ymledu.
Mae taranau a chenllysg hefyd yn bosib yn ystod y cyfnodau gwlyb, yn ôl y swyddfa.