Hunanladdiad ymhlith tadau newydd yn 'argyfwng cudd'
Mae pryderon wedi codi fod hunanladdiad ymhlith tadau newydd yn "argyfwng cudd," ar ôl i arolwg awgrymu eu bod mewn categori risg uwch na mamau newydd.
Yn ôl gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, mae saith gwaith yn fwy o dadau wedi marw yn sgil hunladdiad yn ystod y 1,001 diwrnod cyntaf ers genedigaeth eu plentyn o gymharu â mamau.
Mae gwasanaethau iechyd arbenigol ar gael ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd.
Mae cyn weinidog iechyd San Steffan, y Fonesig Andrea Leadsom, yn rhybuddio bod tadau wedi eu heithrio o'r gofal hwn.
Mae hi wedi sefydlu elusen newydd o'r enw 1001 Critical Days Foundation, gyda'r nod o roi'r gefnogaeth orau i fabanod hyd at eu pen-blwydd yn ddwy oed.
Yr elusen hon sydd wedi ariannu'r astudiaeth newydd gan academyddion ym Mhrifysgol Abertawe sy'n canolbwyntio ar hunanladdiad ymhlith tadau newydd.
Mae'r ymchwilwyr wedi bwrw golwg ar gyfraddau hunanladdiad ymhlith mamau a thadau yng Nghymru rhwng 2002 a 2021, ar adeg benodol, sef 1,001 o ddiwrnodau ers i'r baban gael ei eni.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae eu hymchwil yn awgrymu fod 16 o famau wedi marw yn sgil hunanladdiad a 107 o dadau.
“Mae'n bwysig cofio fod y ffigyrau hyn yn cynrychioli gwir fywydau sydd wedi eu colli,” meddai'r tîm o ymchwilwyr.
“Mae modd atal pob hunanladdiad.”
'Deffro'
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae cyfraddau hunanladdiad yn uwch ymhlith dynion sy'n dadau am y tro cyntaf, ac ymhlith y rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Mae'r awduron yn galw ar i wasanaethau iechyd meddwl ôl-enedigol gael eu cynnig i dadau hefyd.
Yn ôl y Fonesig Andrea Leadsom, gallai cefnogaeth o'r fath arbed bywydau.
“Mae'r ymchwil hwn yn profi fod angen i lywodraethau ar hyd a lled y byd ddeffro,” meddai.
Yn ôl yr elusen 1001 Critical Days Foundation, Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sy'n cofnodi oedran plant adeg hunanladdiad y tad.
Mae'n nhw'n dweud fod angen i hynny newid.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae cymorth ar gael ar wefan S4C:
https://www.s4c.cymru/cy/cymorth/page/adnoddau-iechyd-meddwl