Mae Cyngor Wrecsam wedi cael ei feirniadu'n hallt gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy'n nodi methiannau yn y modd y mae'r awdurdod yn llywodraethu.
Yn ôl yr archwilydd, dyw'r sefyllfa ddim wedi gwella yn ddigonol ers i argymhellion blaenorol gael eu cyflwyno yn 2024.
Mae'n cyfeirio at achosion o ymddygiad gwael a diffygion ym maes hyfforddiant a datblygiad personol.
Mae'r adroddiad yn nodi fod hyn yn "peryglu gallu'r cyngor i wneud penderfyniadau, a llywodraethu."
Yn ôl yr archwilydd, mae hynny yn peryglu enw da'r Cyngor, ac mae'n cwestiynu a yw'n cyflawni "gwerth am arian" i bobl Wrecsam.
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o’r rhan fwyaf o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru
Dyma'r eildro i'r Archwilydd gynnal adolygiad o werthoedd ac ymddygiad yng Nghyngor Wrecsam ers 2023.
Roedd yr adolygiad blaenorol yn canolbwyntio ar y Gwasanaeth Cynllunio. Daeth i'r casgliad adeg hynny fod oedi parhaus wrth fabwysiadu dogfennau strategol allweddol wedi creu risgiau sylweddol i'r Cyngor a bod y berthynas rhwng rhai aelodau a swyddogion wedi torri.
Mae'r adolygiad diweddaraf wedi bod yn bwrw golwg ar werthoedd ac ymddygiad ar lefel uwch ar draws y Cyngor.
Daw i'r casgliad nad yw'r Cyngor wedi mynd i'r afael â'r argymhellion blaenorol yn llawn.
"Rydym yn parhau i fod â phryderon am berthnasoedd sydd wedi torri rhwng rhai aelodau a swyddogion. Ychydig iawn o ymwybyddiaeth o'r rolau a'r cyfrifoldebau disgwyliedig y mae’r Cyngor yn ei dangos," meddai'r adroddiad.
Mae tri argymhelliad pellach wedi eu hychwanegu at yr argymhellion a gafodd eu cyflwyno yn 2024 sef:
- Gwella'r berthynas rhwng aelodau a swyddogion
- Gwella gwybodaeth a sgiliau aelodau
- Sicrhau llywodraethu priodol
Diffyg ymddiriedaeth
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: "Mae cynghorwyr a swyddogion yn dibynnu ar ei gilydd, ac mae perthnasoedd sy'n seiliedig ar barch i'r ddwy ochr yn hanfodol ar gyfer llywodraethu da.
"Y pryderon mwyaf am berfformiad effeithiol y Cyngor yw'r perthnasoedd dan straen parhaus a'r diffyg ymddiriedaeth rhwng rhai aelodau ac uwch swyddogion.
"Oni bai ei fod yn cael ei ystyried ar frys ac yn wirioneddol, bydd hyn yn tanseilio gwaith cadarnhaol y Cyngor a’i weithlu yn ehangach.
"Mae'n hanfodol bod y Cyngor yn cymryd camau uniongyrchol a phenderfynol i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol hyn o lywodraethu da a diwylliant."
Mae Cyngor Wrecsam wedi cael cais i ymateb i'r adroddiad.