Teyrnged i dad 'caredig' fu farw mewn gwrthdrawiad ger Llandudno
Mae teulu tad "caredig" a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Llandudno wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Jon Nunez, 50 oed, o Landrillo-yn-Rhos ddydd Sadwrn mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A547 yng Nghyffordd Llandudno.
Roedd yn gyrru beic modur Suzuki gwyn a wnaeth wrthdaro â Range Rover du am 11:30.
Bu farw yn y fan a'r lle.
Dywedodd ei deulu: “Nid rhan o’n bywydau yn unig oedd Jon - fe wnaeth ein bywydau’n well.
“Roedd yn enaid tyner, yn wrandäwr gwych, yn amddiffynnwr ffyrnig o’i deulu a’i ffrindiau, a’r person cyntaf y byddech chi’n ei ffonio pan fyddwch chi angen chwerthin neu help llaw.
“Roedd cariad Jon at fywyd yn heintus a byddwn ni’n cofio am byth y llawenydd a ddaeth ag ef i’r byd.
"Byddwn ni’n cofio ei chwerthin, ei garedigrwydd, ei wên a’r eiliadau o hapusrwydd a roddodd i ni.”
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i chwilio am dystion sydd â gwybodaeth am y digwyddiad.
Fe all unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau cylch cyfyng gysylltu gyda'r heddlu trwy eu gwefan neu ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod C139505.