'Emosiynol': Tor calon ar ôl colli cannoedd o ddefaid mewn llifogydd

'Emosiynol': Tor calon ar ôl colli cannoedd o ddefaid mewn llifogydd

Mae ffermwr o Sir Gâr a gollodd 272 o ddefaid mewn llifogydd sydyn yr wythnos diwethaf wedi bod yn son am ei golled a'i dristwch. 

Dechreuodd Kiyan a Tetiana Freedom gadw defaid ar 25 erw o dir ar fferm Tanerdy ym mhentref Pont-iets ym mis Ebrill 2025.  

Ar fore Iau, 4 Medi, cafodd y caeau eu dinistrio gan lifogydd. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, disgrifiodd Kiyan ei banig, wrth i Afon Gwendraeth Fawr or lifo'i glannau. 

“Yn sydyn, roedd y dŵr yn codi – on i’n sefyll yn y cae,” meddai.  

“Roedd pobl leol yn dweud nad oedden nhw erioed wedi gweld y fath ddŵr yn gorlifo”.

Mae Kiyan yn gyn-fargyfreithiwr troseddau rhyngwladol o Iran ac yn ffermio gyda’i briod, Tetiana, o Wcráin.

“Doedd neb [o’r awdurdodau] yn helpu”

“Dim ond ffermwyr lleol helpodd wrth i ni drio achub y defaid a chladdu’r gweddill”.

Emosiynol 

Wedi ei fagu ar fferm yn Iran, roedd Kiyan yn “adnabod ei braidd” ac roedd eu colli wedi ei wneud i “deimlo’n wael”.

“Dwi dal yn teimlo’n wael, yn emosiynol ac yn gorfforol. Doedden nhw ddim yn unig yn anifeiliaid, nhw oedd fy mhlant”

Oherwydd glaw trwm, fe orlifodd yr afon yn gyflym gan achosi llifogydd sydyn (flash flooding).

“Mae’r cyfan wedi mynd gyda’r dŵr – fy nefaid, fy nghar, fy nhractor” meddai.

“Aeth y bwyd oedd gyda mi ar gyfer bwydo’r defaid yn y gaeaf”

“Rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru lanhau’r afonydd – ma nhw heb neud ers amser hir”

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mewn ymateb, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth Newyddion S4C: "Ar ddydd Iau, 4 Medi, achosodd glaw trwm i afon Gwendraeth Fawr godi'n gyflym, gan achosi llifogydd ar dir amaethyddol isel ger Pont-iets. 

"Nid yw llifogydd yn anarferol yn yr ardal hon, ac fe wnaethom gyhoeddi Rhybudd llifogydd: Byddwch yn barod. Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, rydym yn blaenoriaethu rheoli perygl llifogydd pan fo pobl ac eiddo mewn perygl.”

Ychwanegodd eu llefarydd: "Cawsom wybod ar ôl y digwyddiad am y colledion da byw dinistriol hyn. Mae cofnodion yn dangos nad oedd perchennog y tir a’r tenantiaid wedi cofrestru i dderbyn ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim, felly ni fyddent wedi derbyn y rhybudd. 

"Ers hynny rydym wedi darparu canllawiau ar sut i gofrestru. Mae cyfrifoldeb am gynnal a chadw cwrs dŵr yn nwylo perchennog y tir neu'r tenant. Rydym yn parhau i gefnogi cymunedau i ddatblygu’r gallu i wrthsefyll llifogydd ac yn annog pob rheolwr tir i gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.