Teyrnged i ddyn o Fôn a fu farw mewn damwain tram yn Lisbon

Andrew David Young

Mae teulu dyn o Fôn, a fu farw mewn damwain tram yn Lisbon, wedi rhoi teyrnged iddo. 

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Llun bod Andrew David Kenneth Young, 82 oed, o ardal Caergybi yn un o dri o'r Deyrnas Unedig a fu farw yn y ddamwain ddydd Mercher diwethaf. 

Dywedodd ei deulu: "Roedd Andrew David Kenneth Young yn cael ei adnabod gan y rhan fwyaf o bobl fel Dave. 

"Cafod ei fagu yn Auchterarder, Sir Perth. Symudodd i Gaergybi ym 1980 gan gael gyrfa hir fel swyddog tollau. 

"Roedd ganddo ddiddoreb brwd mewn trafnidiaeth drwy gydol ei oes, ac wedi iddo ymddeol, roedd yn mwynhau ymweld â rheilffyrdd a thramffyrdd treftadaeth ar draws y byd. 

"Mae'n gysur i'w feibion, eu Mam nhw, a'i frodyr fod ei eiliadau olaf wedi eu treulio yn dilyn un o'r diddordebau a roddodd gymaint o hapusrwydd iddo."

Cafodd 16 o bobl eu lladd yn y ddamwain a chafodd diwrnod cenedlaethol o alaru ei gynnal ym Mhortiwgal yr wythnos diwethaf. 

Mae teyrngedau hefyd wedi eu rhoi i'r ddau arall o'r Deyrnas Unedig a fu farw.

Y cyfarwyddwr theatr Kayleigh Smith a'i phartner Will Nelson, darlithydd yn Ysgol Theatr Arden ym Manceinion, oedd dau o’r tri o’r DU a fu farw yn y ddamwain.

Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Heddlu Sir Gaer, dywedodd teulu Ms Smith: “Roedd Kayleigh yn cael ei charu gan ei theulu a ffrindiau am ei hiwmor a’i ffraethineb.

“Daeth ei natur garedig a gofalgar i’r amlwg yn ei gwaith fel gweithredwr angladdau.

“Roedd hi hefyd yn gyfarwyddwr theatr talentog ac roedd newydd gwblhau gradd meistr. Maen nhw ill dau yn gadael teulu a ffrindiau sydd wedi torri eu calonnau.”

Dywedodd brawd iau Mr Nelson: “Ni all geiriau ddechrau disgrifio sut mae ein teulu a’n ffrindiau’n teimlo ar hyn o bryd ond dyma’r ymgais orau.

“Yr wythnos hon, oherwydd damwain drasig yn Lisbon, Portiwgal, fe wnaethon ni golli Will Nelson, oedd yn frawd mawr i mi ac yn frawd i bawb.

“Roedd o bob amser yn garedig, yn anhunanol ac nid yw’r byd yn teimlo’n iawn nac yn normal hebddo. 

“Roedd ac mae’n parhau i fod yn arwr i mi.”


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.