Cyhoeddi newid i drefn cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd
Mae'r Urdd wedi cyhoeddi y bydd trefn newydd ar gystadlaethau yr Eisteddfod yn 2026 wrth i’r mudiad lansio gŵyl saith diwrnod am y tro cyntaf.
O'r flwyddyn nesaf ymlaen, fe fydd cystadlaethau i aelodau hŷn ar ddechrau'r ŵyl, gyda disgyblion cynradd yn cymryd rhan ar ddiwedd yr wythnos.
Bydd y cystadlu yn dechrau ar ddydd Sadwrn yn hytrach na'r Llun arferol, a bydd yr Eisteddfod yn dod i ben ar ddydd Gwener yn hytrach na Sadwrn.
Cyhoeddwyd bwriad yr Urdd i ehangu’r brifwyl o chwech i saith diwrnod yn ystod Eisteddfod yr Urdd eleni, a hynny mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cofrestru i gystadlu, ynghyd â cheisiadau am gystadlaethau newydd meddai'r mudiad.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn 2026 ar Gae Sioe Môn ger Gwalchmai rhwng dydd Sadwrn y Sulgwyn, 23 Mai a dydd Gwener 29 Mai.
Dywed y mudiad bod "ymgynghoriad cyhoeddus wedi gweld yr Urdd yn cydweithio gydag aelodau, aelwydydd, ysgolion a phwyllgorau lleol i sicrhau bod y trefniadau newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed i ymwneud â’r Gymraeg drwy’r celfyddydau."
Mae trefn newydd cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd fel â ganlyn:
- Dydd Sadwrn: Dysgwyr, Dawnsio Disgo
- Dydd Sul: Aelwydydd
- Dydd Llun: Uwchradd bl10 a dan 19, ADY
- Dydd Mawrth: Uwchradd bl7,8,9 ac offerynnol bl10 a dan 25
- Dydd Mercher: Adrannau, Uwchradd offerynnol bl7,8,9
- Dydd Iau: Cynradd (Cân actol a Pherfformiad theatrig i ysgolion ac Adrannau)
- Dydd Gwener: Cynradd
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl sy’n esblygu ac yn gwrando ar ein haelodau.
"Felly i sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yn fudiad cynhwysol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, rydym wedi cydweithio â’r cyhoedd i greu’r amserlen gystadlu newydd hon.
“Mae ymgynghori a chydweithio gyda channoedd o aelodau a hyfforddwyr wedi sicrhau bod y trefniadau newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed i gymryd rhan, a diolchwn i’r holl bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad cenedlaethol yn enwedig.
"Eu gŵyl nhw ydi Eisteddfod yr Urdd, ac mae derbyn eu mewnbwn i’r broses wedi bod yn amhrisiadwy. Gobeithiwn fydd y datblygiad yma’n arwain at fwy fyth yn ymwneud â’r Gymraeg a’r celfyddydau, a hynny drwy eu perthynas â’r Urdd.”