
Taith 400 milltir cyn-filwr i gofio milwyr o Flaenau Gwent a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Mae cyn-filwr o Frynmawr wedi cychwyn ar daith 400 o filltiroedd i gofio milwyr o Flaenau Gwent a fu farw ym Mrwydr y Somme yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dechreuodd Darren Foote ei daith o Goedwig Mametz yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc ar 2 Medi ac fe fydd yn cyrraedd Glyn Ebwy ar 14 Medi.
Mae cofeb ym Mametz i gofio am filwyr y 38ain Adran Gymreig a fu farw yn y frwydr tra'n ceisio trechu lluoedd yr Almaen ym Mrwydr y Somme yn 1916.
Lladdwyd 565 o'r milwyr, adroddwyd bod 585 ar goll (wedi eu lladd neu eu cipio gan y gelyn) ac fe anafwyd 2,893. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn 19 a 20 oed.
Dywedodd Darren Foote, sydd yn 59 oed ac sydd wedi gwasanaethu yn Rhyfel y Gwlff ac yng Ngogledd Iwerddon, nad oedd yn ymwybodol o'r milwyr Cymreig a fu farw yn y frwydr nes iddo ymweld â'r safle.
"Pan oeddwn i'n athro, roeddwn i wedi mynd gyda disgyblion i Goedwig Mametz," meddai wrth Newyddion S4C.
"Doeddwn i ddim yn gwybod am yr hyn roedd y milwyr wedi gwneud, aberthu cymaint. Rhaid bod y dynion 'ma wedi mynd trwy uffern.
"Tyfu fyny yng Nghymru, a hyd yn oed pan oeddwn i wedi ymuno â'r fyddin, doeddwn i ddim yn gwybod am hyn."
Ychwanegodd Mr Foote: "Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig bod pobl yn dysgu, a bod pobl yn y Cymoedd yn gwybod beth ddigwyddodd achos roedd y dynion yma wedi aberthu cymaint, rhai gyda'u bywydau.
"Pan rydyn ni'n cofio am y bobl yma, ni'n cofio am bawb gyda'i gilydd. Ond roeddwn i'n teimlo'n euog nad oeddwn i'n gwybod am y dynion yma ym Mametz a meddyliais nad ydyn ni'n gallu gadael i hyn ddigwydd yng ngweddill y Cymoedd."

Am bedair blynedd mae Darren wedi bod yn meddwl am elusen i godi arian i filwyr yn ogystal â chynllunio llwybr ar gyfer y daith o Mametz yn ôl i Gymru.
Penderfynodd godi arian i elusen Blesma, sydd yn cefnogi milwyr a gollodd rhannau o'u corff tra'n gwasanaethu yn y fyddin.
Hyd yma mae Darren wedi codi bron i £2,000 i'r elusen, ac mae'n gobeithio codi llawer mwy erbyn iddo gyrraedd pen ei daith.
Ar hyn o bryd mae'r Cymro wedi cyrraedd Salisbury yn Lloegr, wedi iddo gerdded am 12 awr pob dydd.
Mae'r her wedi bod yn un emosiynol hyd yma i Darren Foote.
"Roedden ni wedi talu teyrnged yng Nghoedwig Mametz, cicio pêl rygbi Glyn Ebwy i mewn i'r goedwig a chwarae Hen Wlad fy Nhadau," meddai.
"Mae'r daith wedi bod yn emosiynol, yn gorfforol ac yn feddyliol. Dwi'n codi am 6.00 yn y bore ac yn cerdded tua 40 milltir y diwrnod."

Mae un o gyn gyd-filwyr Darren, Paul wedi helpu wrth addasu'r daith wrth iddo gerdded o un lle i'r llall.
Un o'r heriau mwyaf yw osgoi priffyrdd, gan fod cerdded arnynt mor beryglus.
"Mae rhaid i ni ychwanegu'r milltiroedd pan 'da ni'n gallu oherwydd nad oes modd cerdded ar y priffyrdd," meddai.
"Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd rhai o'r ffyrdd yma ddim yn bodoli, felly ni'n ceisio cadw pethau mor agos ac onest ydan ni'n gallu fel ei fod yn debyg i'r daith roedd rhai o'r milwyr wedi cerdded yn ôl i'r Cymoedd."
'Balch'
Pan fydd Darren yn dychwelyd i Gymru fe fydd yn gosod torch ger Cofeb Brynmawr a Chofeb Glyn Ebwy cyn teithio draw i Glwb Rygbi Glyn Ebwy ar gyfer bwyd a diodydd.
Yno fe fydd y cyn-filwr ac athletwr paralympaidd, Greg Stevenson ac aelodau teulu'r milwyr a wnaeth farw yn Mametz yn cwrdd â Darren.
Dywedodd Darren na fydd yn gwybod sut y bydd yn teimlo wrth ddychwelyd i'r Cymoedd.
"Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai llawer yn dod, ond wrth i mi gerdded mae'n ymddangos y bydd llawer yno ym Mrynmawr a Glyn Ebwy pan fydda i'n dychwelyd," meddai.
"Dydw i ddim yn siŵr sut rydw i'n mynd i deimlo. Dydw i ddim yn un am ddathliadau a diolch a phethau fel 'na, rydw i'n teimlo mai'r her yma yw'r peth iawn i'w wneud a fi yw'r un i'w wneud.
"Rydw i'n falch iawn bod pobl yn cymeradwyo'r ymdrech rydyn ni'n ei wneud bob dydd."