Gwynedd: Dyn wedi'i anafu'n ddifrifol mewn ymosodiad honedig ger tafarn
Mae dau ddyn wedi eu harestio wedi i ddyn ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad honedig yn Llanfrothen fis diwethaf.
Aeth swyddogion i'r ardal ger y Brondanw Arms am tua 11.00 ar ddydd Sadwrn 20 Awst yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.
Cafodd dyn 61 oed a dyn 40 oed eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Maent bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd PC Aled Morris o Heddlu'r Gogledd: "Mae ymchwiliadau i'r digwyddiad hwn yn parhau ac rwy'n apelio ar unrhyw un a welodd yr ymosodiad i gysylltu â ni.
"Yn ogystal, credwn y gallai'r digwyddiad hwn fod wedi'i ffilmio ar ffôn symudol, felly apeliwn ar unrhyw un sydd â thystiolaeth ar ffilm i gysylltu â ni trwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 25000720697."