Dyffryn Conwy: Achos estraddodi dyn oedd ar ffo rhag yr FBI wedi dechrau
Dyffryn Conwy: Achos estraddodi dyn oedd ar ffo rhag yr FBI wedi dechrau
Gallai dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yn America am ddau ddegawd, cyn iddo gael ei ddarganfod ym Maenan, Dyffryn Conwy, wynebu dedfryd o 90 mlynedd.
Dyna sydd wedi ei nodi ar ddechrau achos estraddodi Daniel Andreas San Diego, sy'n 47 oed.
Roedd yn un o'r prif unigolion ar restr chwilio'r asiantaeth Americanaidd wedi dau ffrwydrad yn San Francisco, California yn 2003.
Cafodd ei arestio gan swyddogion o'r Asiantaeth Droseddau, Heddlu Gwrth Derfysgaeth a Heddlu Gogledd Cymru mewn ardal wledig ym Maenan ym mis Tachwedd y llynedd, lle roedd wedi prynu tŷ.
Ymddangosodd San Diego yn Llys Ynadon Westminster ar gyfer ei wrandawiad estraddodi ddydd Llun yn gwisgo cryn gwyn a thei werdd.
Ar 28 Awst 2003, ffrwydrodd dau fom o fewn awr i'w gilydd ar gampws sefydliad bio-dechnegol Chiron yn San Francisco, yn ôl yr FBI.
Yna ar 26 Medi, 2003, ffrwydrodd bom arall yng nghanolfan cynnyrch maeth Shaklee yn Pleasanton, California.
Cafodd San Diego ei gyhuddo o achosi difrod a bod â ffrwydron yn ei feddiant pan gafodd y troseddau honedig eu cyflawni.
Clywodd yr achos estraddodi fod cyhuddiadau ychwanegol wedi eu cyflwyno yn cynnwys "defnyddio neu gario dyfais ffrwydrol er mwyn cyflawni trosedd."
Ar ran yr amddifyniad, dywedodd Mark Summers KC: “Trwy'r ail gyhuddiad, mae'r erlynydd wedi creu sefyllfa ar gyfer y barnwr, lle byddai angen rhoi o leiaf 35 mlynedd o ddedfryd, pe bai euogfarniad.
“Mae'r canllawiau yn dweud 37-39 mlynedd – does dim parôl, felly byddai angen i'r diffynydd dreulio'r cyfnod hwnnw dan glo.
“Ac os llwydda'r erlyniad i berswadio'r barnwr bod angen cyflwyno cyhuddiadau ychwanegol ar sail terfysgaeth, yna mae'r canllawiau yn nodi bod yn rhaid iddo roi dedfryd o 90 mlynedd.”
Dywedodd yr FBI yn flaenorol bod gan San Diego, a gafodd ei eni yn Berkeley, California, "gysylltiadau" â grwpiau eithafol ym maes hawliau anifeiliad a bod gwobr o $250,000 am wybodaeth amdano.
Mae'r achos estraddodi yn parhau.