Gwrthdrawiad Llandudno: Dynes wedi marw o 'anafiadau difrifol i'w brest'

Daphne Stallard

Mae cwest wedi clywed fod dynes 89 oed a fu farw ar ôl iddi gael ei tharo gan lori ailgylchu wedi dioddef anafiadau difrifol i'w brest. 

Bu farw Daphne Stallard yn dilyn gwrthdrawiad ar Stryd Brookes oddi ar Ffordd Caroline ar 1 Medi.

Er bod yr ambiwlans awyr yn bresennol, bu farw Ms Stallard yn y fan a'r lle. 

Fe gafodd gweithiwr cyngor ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus, ond fe gafodd ei ryddhau yn ddiweddarach o dan ymchwiliad.

Mewn teyrnged, dywedodd ei phlant Mary, Andrew a John Stallard ei bod yn “olau disglair” oedd yn llawn cariad.

Roedd yn fam ac yn fam-gu a oedd bob tro yn "llawn balchder".

Cafodd ei disgrifio fel “dynes ffyddlon” oedd yn aelod o nifer o grwpiau cymunedol ac roedd hi'n treulio llawer o’i hamser yn "gofalu am bobl eraill."

“Roedd hi’n gofalu am bobl o bob oedran ac roedd hi’n mwynhau helpu’r plant bach yn Ysgol Sul yr eglwys yn fawr, yn ogystal ag ymweld â’r ‘henoed’ oedd yn aml iawn yn cynnwys y rheiny oedd yn llawer iau nag oedd hi!"

Ychwanegodd y teulu ei bod hi’n wirfoddolwr “gweithgar” yn yr eglwys a hithau wedi bod yn briod i’r Parchedig Charles Stallard, a fu farw bum mlynedd yn ôl. 

Wedi gwrandawiad byr yn Rhuthun, fe gafodd y cwest ei ohirio tan y bydd gwrandawiad pellach. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.