'Heriol iawn': Cadeirlan Bangor yn wynebu 'diffyg ariannol o £300,000'
Mae Cadeirlan Bangor wedi cadarnhau ei bod yn ystyried toriadau i swyddi yn sgil sefyllfa ariannol “heriol iawn.”
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd y Cabidwl, sef y corff o offeiriad sydd yn rheoli’r Gadeirlan, bod angen “gweithredu ar frys” er mwyn adfer y sefyllfa.
Yn ôl y Cabidwl, mae’r sefydliad yn wynebu diffyg ariannol gweithredol o £300,000 erbyn diwedd 2025, “a fyddai’n rhoi straen anghynaladwy ar gronfeydd wrth gefn, a fyddai'n arwain at fethdaliad erbyn diwedd 2026.”
Fe fydd ymgynghoriad nawr yn cael ei gynnal ar ddiswyddiadau posibl, all “olygu newidiadau i’r strwythur staffio.”
“Mae sefyllfa ariannol y Cabidwl yn heriol iawn ar hyn o bryd,” meddai’r datganiad.
“Mae Cadeirlan Bangor yn profi diffyg sylweddol rhwng gwariant ac incwm.
“Mae hyn ymhell dros unrhyw gynnydd mewn incwm, gan arwain at ddiffyg ariannol a allai, os na chaiff ei fynd i’r afael ag ef, roi pwysau sylweddol ar ein cronfeydd wrth gefn.”
“Rydym eisoes wedi dechrau ar broses ymgynghori ar ddiswyddiadau posibl. Rydym yn benderfynol y bydd unrhyw ymgynghoriad ag aelodau staff yn deg, yn urddasol, yn gyfrinachol ac yn unol â’r arferion gorau o fewn Adnoddau Dynol.”
Gohorio côr
Datgelwyd hefyd bod y Cabidwl wedi gohirio pob côr y gadeirlan dros dro ar ôl i aelodau gynnal protest yn ystod gwasanaeth.
Dywedodd y Cabidwl fod aelodau wedi canu cân newydd o’r enw ‘Cân y Dig’ yn ystod yr addoliad sanctaidd ar ddydd Sul 31 Awst, sef cân “a oedd yn hollol anaddas”, cyn cerdded allan o’r gwasanaeth.
Mae Cyfarwyddwr Cerddoriaeth y Gadeirlan, Joe Cooper, i ffwrdd o’r dyletswyddau am gyfnod, yn ôl y datganiad.
“Penderfynodd y Cabidwl ohirio pob gweithgaredd côr am gyfnod cychwynnol o fis, yn weithredol ar unwaith, er mwyn adolygu’r hyn a ddigwyddodd ac ystyried y camau nesaf.
“Bydd hyn hefyd yn gyfle i gynnal deialog rhwng y Cabidwl a'r Côr.”
Daw’r datganiad yn ystod cyfnod cythryblus i’r Esgobaeth eleni.
Ar benwythnos Calan Mai, fe gafodd crynodeb o ddau adroddiad eu cyhoeddi ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.
Roedd yma sôn am “ddiwylliant lle’r oedd ffiniau rhywiol yn niwlog,” defnydd o iaith anweddus a gor-yfed o fewn y Gadeirlan.
Yn ddiweddarach, fe ddaeth i’r amlwg fod y Comisiwn Elusennau yn ymchwilio i nifer o achosion cyfeirio digwyddiadau difrifol, oll yn ymwneud ag Esgobaeth a Chadeirlan Bangor, dros gyfnod o ychydig yn hwy na blwyddyn.
Yna, daeth ymddeoliad disymwth Andy John fel Archesgob Cymru ar ddiwedd Mehefin.
Fe wnaeth ymddeol fel Esgob Bangor ddiwedd Awst hefyd, ar ôl cyfres o straeon newyddion am yr Esgobaeth.