Angen 'camau pendant' i fynd i'r afael â bwlio ymysg bargyfreithwyr

BargyfreithiwrPA

Mae angen cymryd camau “pendant a radical” i newid “diwylliant o wadu” sy’n caniatáu bwlio, aflonyddu ac aflonyddu rhywiol ymysg bargyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.

Daeth adroddiad y Farwnes Harriet Harman i'r casgliad fod diwylliant o beidio cosbi drwgweithredwyr yn y maes, sydd yn atal dioddefwyr rhag codi eu llais, oherwydd ofn am eu gyrfaoedd.

Comisiynodd Cyngor y Bar, sy’n cynrychioli bargyfreithwyr yn y ddwy wlad, yr adolygiad y llynedd. Cafodd ei wneud ar ôl i ymchwil awgrymu bod bargyfreithwyr yn profi lefelau cynyddol o ymddygiad amhriodol yn eu mannau gwaith ac yn y llysoedd.

Mewn adroddiad 129 tudalen, dywedodd y Farwnes Harman fod “cohort o bobl anghyffyrddadwy” wedi’i greu gan y rhai sy’n cyflawni camymddygiad gan “fod yn eithaf hyderus na fydd dim yn cael ei wneud yn ei gylch”.

Ychwanegodd nad yw dioddefwyr “yn meiddio cwyno oherwydd ofn colli allan trwy ddod yn adnabyddus fel rhywun sy’n achosi trafferth”.

Roedd hyn yn galluogi rhai i “gamddefnyddio eu grym” achos fod “diffyg hyder llwyr yn y system gwynion”.

Camymddwyn

Dywedodd yr adroddiad hefyd fod “grwpiau WhatsApp yn doreithiog” ymhlith bargyfreithwyr iau, “yn cymharu nodiadau ar fargyfreithwyr oedd yn targedu unigolion”, a bod “diwylliant o dawelwch” yn atal camymddygiad rhag cael ei adrodd.

Roedd bwlio bargyfreithwyr gan farnwyr hefyd yn “amlwg yn broblem” sy’n “tanseilio’r system gyfiawnder”, ychwanegodd yr adroddiad. Roedd “ychydig iawn o atebolrwydd am ymddygiad barnwrol yn y llys” meddai'r ddogfen.

Gwnaeth y Farwnes Harman 36 o argymhellion i wella safonau, gan gynnwys sefydlu rôl Comisiynydd Ymddygiad newydd, cyflwyno hyfforddiant gorfodol, “ailwampio llwyr” o’r broses gwyno a gwahardd perthnasoedd rhywiol rhwng uwch fargyfreithwyr a staff.

Dywedodd cadeirydd Cyngor y Bar fod yr adroddiad yn “ddarllen anghyfforddus” ac addawodd ddatblygu “cynllun ar gyfer newid.”

Yn ei hadroddiad, dywedodd y Farwnes Harman: “Nid yw’r sefyllfa hon yn gynaliadwy."

Llun: Katie Collins/PA 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.