Ymgyrch newydd i annog mwy o bobl ifanc i roi gwaed
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi dechrau ymgyrch i gael cenhedlaeth newydd o bobl i roi gwaed.
Bwriad ymgyrch 'Gwaed Ifanc/Young Blood' yw annog mwy o fyfyrwyr a phobl ifanc i roi gwaed.
3% o boblogaeth Cymru sydd yn gymwys i roi gwaed sydd yn dewis gwneud meddai'r Gwasanaeth Gwaed ac mae llai na 15% o'r rhain yn iau na 30 oed.
Yn ôl y sefydliad mae'n hollbwysig bod mwy o bobl ifanc yn gwneud er mwyn gwneud yn siwr bod modd cwrdd â'r angen.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn casglu tua 100,000 o samplau o waed bob blwyddyn ac mae'r gwaed yn cael ei ddefnyddio ar draws 19 o ysbytai yng Nghymru.
Fe all bob un rhodd gwaed achub tri bywyd mewn nifer o ffyrdd fel cefnogi mamau a babanod wedi genedigaeth, cleifion sydd gyda chanser gwaed a pherson sydd yn gwella wedi damwain.
Tra bod nifer o ysgolion yn cynnal sesiynau rhoi gwaed neu yn hybu rhai yn y gymuned, y gobaith yw bod mwy o ysgolion a cholegau yn mynd i fod yn rhan o'r bartneriaeth.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn gobeithio recriwtio mwy na 6,000 o bobl rhwng 16 a 30 oed a 16 i 45 oed o gefndiroedd du, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig i'r gofrestr bôn-gelloedd (stem cell) bob blwyddyn.
Ar hyn o bryd, mae o gwmpas 2,000 o bobl yn y DU angen trawsblaniad bôn-gelloedd bob blwyddyn.
Ni fydd hyn yn bosib i dri o 10 claf, ac mae'r ffigwr yn cynyddu i saith ymhob 10 o gleifion o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
'Rhoi bywyd yn ôl i rywun arall'
Un ysgol sydd yn cefnogi y Gwasanaeth Gwaed Cymru yw Ysgol Stanwell yn Ne Cymru. Mae Ruby Redford yn un o'r disgyblion sydd yn rhoi gwaed.
"Roedd rhoi gwaed am y tro cyntaf yn yr ysgol yn arbennig, gwybod bod rhoi 10 munud o fy mywyd yn gallu rhoi bywyd yn ôl i rywun arall," meddai.
"Dwi'n gwybod bod rhoi gwaed o oed ifanc wedi fy ysbrydoli i ddod yn rhoddwr gwaed ar hyd fy oes."
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser: “Pobl ifanc yw dyfodol Gwasanaeth Gwaed Cymru.
"Mae Gwaed Ifanc yn ymgyrch bwysig i Wasanaeth Gwaed Cymru wrth i ni gychwyn ar ymgais i annog mwy o bobl ifanc i ddechrau eu taith i roi gwaed ac achub bywydau."