Tenis: Alcaraz yn curo Sinner yn ffeinal Pencampwriaeth Agored UDA
Mae Carlos Alcaraz wedi curo Jannik Sinner yn ffeinal Pencampwriaeth Tenis Agored UDA ddydd Sul.
Fe ddechreuodd Alcaraz yn gryf gan hawlio'r set gyntaf cyn i Sinner frwydro yn ôl yn yr ail set i ennill honno.
Ond llwyddodd Alcaraz i ennill y drydedd a'r bedwaredd set yn hawdd, gan hawlio'r bencampwriaeth am yr ail waith yn ei yrfa.
Fe gafodd y rownd derfynol ei gohirio am hanner awr oherwydd mesurau diogelwch ychwanegol yn sgil presenoldeb yr Arlywydd Trump.
Mae buddugoliaeth Alcaraz yn golygu ei fod ef a Sinner wedi ennill yr un nifer o brif bencampwriaethau tenis eleni, gyda Alcaraz yn ennill Pencampwriaeth Agored Ffrainc ac UDA, a Sinner yn ennill Pencampwriaeth Agored Awstralia a Wimbledon.
Mae llwyddiant Alcaraz nos Sul hefyd yn golygu ei fod wedi adennill y teitl o fod yn chwaraewr rhif 1 yn rhestr detholion y byd, wedi i Sinner hawlio'r safle am 65 wythnos.