Menyw wnaeth wenwyno ei theulu yn cael dedfryd o garchar am oes
Mae menyw wnaeth weini madarch gwenwynig a laddodd rhai aelodau o'i theulu wedi cael dedfryd o garchar am oes.
Fydd Erin Patterson o Awstralia ddim yn cael hawl am barôl am 33 mlynedd sydd yn golygu y bydd yn ei 80au cyn gallu gwneud cais i gael ei rhyddhau.
Fe wnaeth Patterson wahodd ei chyn-rieni-yng-nghyfraith, Don a Gail Patterson, 70, a chwaer Gail Patterson, Heather Wilkinson, i gael cinio gyda hi ym mis Gorffennaf 2023.
Fe fuodd y tri farw ychydig ddyddiau ar ôl bwyta'r pryd bwyd yng nghartref Patterson yn nhref Leongatha, sydd ddwy awr i ffwrdd o Melbourne.
Roedd gŵr Mrs Wilkinson, Ian Wilkinson, hefyd yn y cinio ac wedi bwyta'r bwyd. Ond fe wnaeth o oroesi ar ôl cael trawsblaniad afu a threulio wythnosau yn yr ysbyty.
Daeth yr erlyniad i'r casgliad fod Patterson, sy'n 50 oed wedi gwneud y pryd o fwyd gan ddefnyddio madarch gwenwynig yn fwriadol.
Wedi'r achos mae wedi dod i'r amlwg fod yna gyhuddiadau bod Erin Patterson wedi ceisio lladd ei gŵr. Roedd y ddau wedi gwahanu. Roedd disgwyl i Patterson wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio Simon Patterson. Ond fe gafodd y cyhuddiadau hyn eu gollwng heb esboniad ychydig cyn yr achos llys.
Roedd Simon Patterson wedi dweud ei fod o'n credu bod ei wraig wedi bod am flwyddyn yn ceisio ei ladd trwy roi bwyd drwg iddo.
Mae Ian Wilkinson wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf gan ddiolch i'r gweithwyr meddygol a chefnogwyr ar draws y byd.
Llun: