Tanni Grey-Thompson wedi derbyn 'negeseuon bygythiol' ar ôl gwrthwynebu'r bil cymorth i farw

Tanni Grey-Thompson

Mae’r seren Baralympaidd o Gymru, y Farwnes Tanni Grey-Thompson, wedi dweud iddi dderbyn negeseuon yn honni y byddai hi’n gyfrifol am “bobl yn marw mewn poen” wedi iddi wrthwynebu’r bil cymorth i farw. 

Fel aelod o Dŷ’r Arglwyddi, dywedodd y Gymraes ei bod hi wedi derbyn sawl e-bost yn ei bygwth wedi iddi ddweud y gallai’r bil arwain at “newid byd” i bobl anabl. 

O dan y gyfraith arfaethedig newydd fe fydd oedolion sydd â salwch angheuol, gyda llai na chwe mis i fyw ac yn eu iawn bwyll yn gymwys i ddewis i farw.

Pryder Tanni Grey-Thompson yw y bydd y gyfraith, pe bai'n dod i rym, yn cael ei ymestyn i blant neu rhai sydd yn byw gyda salwch meddyliol neu anableddau.

Mae'n ymgyrchydd brwd dros hawliau pobl anabl ac yn dweud ei bod hi’n derbyn bod negeseuon yn gwrthwynebu ei safbwynt yn “rhan o’i swydd.” 

Ond mae wedi cael cyfnod heriol ar ôl derbyn negeseuon bygythiol yn sgil ei gwrthwynebiad i'r bil cymorth i farw.

Yn dilyn marwolaeth ei mam gyda chanser mae’n dweud ei bod yn deall teimladau cryf pobl ar y mater ond bod angen canolbwyntio ar ofal diwedd oes.

“Dwi wedi cael e-byst, pobl yn dweud ‘diolch yn fawr am ein diogelu ni," meddai.

“A dwi hefyd wedi cael rhai hynod o fygythiol yn dweud fy mod i’n gyfrifol am bobl yn marw mewn poen, a bod hynny ar fy ‘sgwyddau i.”

'Angen trafodaeth fanwl'

Bydd y Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) yn dychwelyd i Dŷ'r Arglwyddi yn Llundain ddydd Gwener.

Dywedodd y Farwnes nad oedd hi'n gwrthwynebu yr egwyddor o roi cymorth i farw ond dywedodd ei bod yn gwrthwynebu’r bil fel ag y mae ar hyn o bryd. 

Mae’n galw ar aelodau Tŷ’r Arglwyddi i fod yn ystyrlon wrth drafod y bil a chynnig unrhyw newidiadau. 

“Fy mwriad yw cyflwyno nifer o welliannau i’w wneud mor ddiogel â phosibl," meddai. "Ond mae angen i ni gael trafodaeth fanwl iawn.”

Mae’n dweud ei bod yn pryderu y gallai pobl gael eu twyllo dan y ddeddf gan ddweud y bydd yn “ei hanfod yn newid ein perthynas gyda meddyginiaethau, gyda doctoriaid".

Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes)

Mae’n debyg y gallai'r trafodaethau bara fwy na diwrnod yn Nhŷ’r Arglwyddi  gyda disgwyl y bydd dros 200 o aelodau am gael dweud eu dweud.

Mae’r Tŷ Cyffredin eisoes wedi pleidleisio ddwywaith ar y bil. Cafodd ei gymeradwyo am drafodaeth bellach yn Nhŷ’r Arglwyddi ym mis Mai wedi i 274 o ASau pleidleisio o blaid y ddeddf, a 224 yn erbyn (sef mwyafrif o 50). 

Bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr pe bai’n cael ei chymeradwyo gan y Senedd.

Fe bleidleisiodd y Senedd yn erbyn egwyddor caniatáu'r hawl i farw mewn pleidlais ym mis Hydref y llynedd. 

Mae’n bwnc sy’n eistedd ar ffin datganoli gan fod y system gyfiawnder heb ei ddatganoli ond iechyd wedi ei ddatganoli i Gymru.

Llun: James Manning/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.