Syrffiwr wedi marw ar ôl ymosodiad gan siarc yn Sydney
Mae syrffiwr wedi marw wedi iddo ddioddef ymosodiad gan “siarc mawr” yn y môr yn Sydney, Awstralia.
Cafodd dyn ei dynnu o’r môr ar draeth Long Reef yng ngogledd Sydney ddydd Sadwrn, meddai Heddlu De Cymru Newydd.
Er gwaethaf ymdrechion meddygon bu farw’r dyn yn y fan a’r lle, meddai’r llu.
Dyw’r person ddim wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yma.
Yn ôl y papur newydd Sydney Morning Herald, roedd y dyn yn ei 50au ac yn syrffiwr profiadol.
Fe gollodd y dyn ei goesau ac roedd ei fwrdd syrffio wedi’i dorri yn hanner yn dilyn yr ymosodiad a ddigwyddodd tua 100 metr oddi ar lan y môr, meddai’r papur.
Dyw e ddim yn glir eto pa fath o siarc wnaeth ymosod arno.
Dyma’r tro cyntaf i rywun gael ei ladd mewn digwyddiad o’r fath yn Sydney ers i hyfforddwr deifio 35 oed o’r DU farw yno ym mis Chwefror 2022.
Mae ymosodiadau siarcod yn brin iawn yn yr ardal – 1963 oedd y tro diwethaf i rywun gael ei ladd gan siarc yn Sydney cyn hynny.
Mae tri o bobl eraill wedi marw yn Awstralia yn dilyn ymosodiad gan siarcod yn 2025, yn ôl y llywodraeth.
Llun: Bernard Spragg/Wikipedia