Brwydro tân ym mhencadlys blaenorol y BBC yn Llundain
Mae dwsinau o ddiffoddwyr tân wedi bod yn brwydro yn erbyn tân yn yr hen BBC Television Centre yn Llundain ddydd Sadwrn.
Dywedodd Brigâd Dân Llundain (LFB) fod tua 100 o ddiffoddwyr tân a 15 o beiriannau tân wedi’u galw i'r adeilad naw llawr ar Wood Lane, Hammersmith a Fulham.
Mae lluniau yn dangos criwiau ym mhencadlys blaenorol y BBC, sydd wedi cael ei drawsnewid yn fflatiau a bwyty ers hynny.
Dywedodd y gwasanaeth tân: “Mae'r tân ar hyn o bryd yn effeithio ar loriau uchaf yr adeilad.
“Mae bwyty a decio allanol ar dân ar hyn o bryd. Mae’n bosib bod nifer anhysbys o fflatiau hefyd wedi cael eu heffeithio gan y tân.”
Cafodd un person ei drin gan barafeddygon yna ei ryddhau yn y fan a’r lle, meddai Gwasanaeth Ambiwlans Llundain.
Fe gafodd adeiladau cyfagos hefyd eu gwagio fel rhagofal ac mae canolfan gymorth wedi'i sefydlu ar gyfer y rhai a oedd yn gorfod gadael eu cartrefi.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Llundain: “Cawsom ein galw am 03.13 heddiw i adroddiadau am dân ar Wood Lane yn White City.
“Anfonwyd adnoddau i’r lleoliad, gan gynnwys criw ambiwlans, swyddog ymateb i ddigwyddiadau a’n tîm sy’n gweithredu mewn ardaloedd peryglus.
“Rydym wedi trin un claf a’i ryddhau yn y fan a’r lle.”
Roedd y BBC wedi’i leoli’n bennaf yn y BBC Television Centre nes 2013 cyn symud i’w leoliad presennol yn Broadcasting House.
Mae gwefan yr adeilad yn dweud ei fod ar hyn o bryd yn cynnwys 162 o gartrefi, ynghyd â champfa a gwesty â 47 o ystafelloedd gwely.
Nid yw’n amlwg eto beth achosodd y tân.