Rownd a Rownd yn 30: 'Porthaethwy yn rhan anferth o lwyddiant y gyfres'

Robin Evans, Sue Waters a Bedwyr Rees yng Ngwobrau BAFTA Cymru
Robin Evans, Sue Waters a Bedwyr Rees yng Ngwobrau BAFTA Cymru

Ar drothwy penblwydd Rownd a Rownd yn 30, mae un o sylfaenwyr y gyfres yn dweud bod lleoliad y set ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn wedi chwarae rhan "anferthol" yn ei llwyddiant dros y degawdau.

Dywedodd Sue Waters, un o gynhyrchwyr gwreiddiol yr opera sebon, bod y penderfyniad yn 1995 i adeiladu set yng nghanol y dref ar lan y Fenai wedi codi gwrychyn rhai o arbenigwyr y diwydiant teledu, gan gynnwys cynhyrchydd y cyfresi poblogaidd Grange Hill a Hollyoaks.

Roedd Phil Redmond ar y panel dewis ar gyfer y gyfres sebon newydd i bobl ifanc, gan weithio fel ymgynghorydd i'r rhaglen ar y dechrau.

"Mi nath Phil Redmond ddweud wrthon ni bo' ni’n boncyrs yn mynd i sefydlu ein base ni yng nghanol tref, ond o'n i'n trio deud wrtho fo bod o’n wahanol iawn yng Nghymru achos doedd ein system sêr ni ddim yr un peth," meddai Ms Waters wrth Newyddion S4C.

"Efallai fydd gan bobl ddiddordeb am ryw wythnos, bythefnos, ond wedyn byddan nhw’n anghofio bo' ni yna a dyna be ddigwyddodd."

Fe wnaeth Ms Waters a'i chyd-sylfaenydd, Robin Evans, ddewis Porthaethwy oherwydd bod gan y dref leoliadau ar gyfer opera sebon.

"Roedd adlewyrchu bob rhan o gymdeithas yn bwysig iawn yn ein dewis ni o leoliad," meddai Ms Waters.

"Pan oeddan ni’n gweithio ar yr hen gyfresi dramâu, roedden nhw'n dweud i beidio mynd mwy na naw milltir o'r base neu oedd o’n wastraff amser. 

"Felly, roedd Borth yn caniatáu i ni wneud hynny achos roedd 'na ysgol gynradd ac uwchradd, stad o dai cyngor, stad o dai dosbarth canol ac wedyn llefydd posh ar hyd y golden mile rhwng Borth a Biwmares. Roedd 'na hefyd swyddfa'r post, gorsaf heddlu, archfarchnad a digon o lefydd bwyta. 

"Yr unig beth oedd yn rhaid ni adeiladu oedd londrét – roedd bob dim arall oeddan ni ei angen yn Borth."

Image
Criw cynhyrchu gwreiddiol Rownd a Rownd
Y criw yn dathlu

Yn sgil y pandemig Covid yn 2020, roedd yn rhaid i'r criw symud rhannau o'r set i mewn i stiwdio oherwydd cyfyngiadau ffilmio.

Ond mae set wreiddiol tref ffuglennol Cilbedlam yn dal i ffynnu – ac yn parhau i gynnig cyfleoedd i bobl yr ardal.

"Un o’r pethe dw i'n mwyaf prowd ohono fo ydi bod gymaint o bobl ifanc oedd yn actio yn y gyfres wedi mynd ymlaen i actio ac i neud swyddi eraill yn y byd teledu a theatr, felly mae hwnna’n waddol hynod o bwysig," meddai.

"Mae o'n hollbwysig i gael cyfres sydd yn cyflogi gymaint o bobl, ac mae o’n bwysig i’r gogledd achos os nad oes gwaith rheolaidd mae pobl yn mynd i adael."

Image
Tim cynhyrchu Rownd a Rownd

Mae Ms Waters wedi ymddeol ers 2018 ond mae'n dweud mai uchafbwynt cynhyrchu Rownd a Rownd oedd cael ymateb gwylwyr.

"Yr uchafbwynt oedd cynnal teithiau o gwmpas y set i’r cyhoedd lle oeddech chi’n gweld bod pobl wir yn mwynhau be' oeddan ni’n gynhyrchu," meddai.

"Roedd o’n bwysig i ni weld hynny a pha mor onest oedden nhw weithiau o ran be oedden nhw ddim yn licio. 

"Lot pwysicach na’r Baftas oedd bod pobl normal allan yna yn eitha' enjoio fo!"

Ac er mwyn parhau i adlonni gwylwyr am 30 mlynedd arall, mae hi'n dweud bod yn rhaid i'r gyfres fod "ar flaen y gad".

"Mae'n rhaid mynd efo’r newid, does dim pwynt edrych nôl a meddwl mai dyna oedd y dyddie gorau," meddai.

"Rwtch – mae'n rhaid edrych ymlaen at y dyfodol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.