Aberdâr: 'Ymdeimlad o gymuned' yn cynnal busnesau yn ystod cyfnod heriol

Newyddion S4C

Aberdâr: 'Ymdeimlad o gymuned' yn cynnal busnesau yn ystod cyfnod heriol

Fel gymaint o drefi ar hyd a lled Cymru mae Aberdâr ym mhen ucha' Cwm Cynon yn profi cyfnod heriol.

Trethi busnes uchel, siopau gwag ar y stryd fawr a phobl yn siopa ar y we.

Er gwaetha'r heriau cyffredin mae 'na falchder a chymuned yma, a theimlad y gall y dre' lwyddo.

Mae gan Aberdâr hanes adnabyddus ymhlith trefi diwydiannol y de. 

Fel 'Brenhines y Bryniau' y cafodd ei hanabod mewn cyfnod llewyrchus a fu, catre'r Eisteddfod Genedlaethol fodern gyntaf a chyfraniad llai poblogaidd i Frad y Llyfrau Gleision.

Ond bellach ar ddiwrnod gwlyb ym Medi mae'r pwysau i'w deimlo ar y stryd fawr.

Mae gan Aimee Carter siop flodau yn y dref, ond fel gymaint o berchnogion busnesau mae hi wedi gorfod codi prisiau am bod eu cynnyrch crai wedi codi gymaint. 

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae pris blodau wedi codi 20%, meddai.

"Da ni'n gwario'r arian ond 'dyn ni ddim yn gweld bod y stoc yn mynd lan," dywedodd wrth Newyddion S4C. 

"Blwyddyn yn ôl bydde ni'n edrych a bydde'r blodau yn £6.99 ond nawr mae nhw'n dod mewn am £6.99 so 'ma rhaid i ni roi'r pris lan - fel y fresia's ma'n £8.99."

Y broblem arall yn Aberdâr medai Aimee yw prinder siopwyr. 

"Dyw'r footfall ddim yn dda, yn bendant mae pobl yn mynd arlein ac yn neud pethe arlein".

Er bod costau wedi codi, mae busnes gemwaith teluol Dafydd Davies, gafodd ei sefydlu dros ugain mlynedd yn ôl, yn ffynnu.

"Mae gwerthiant wedi bod yn dda, ni wedi bod yn lwcus 'da'r tywydd, ac mae lot o gymorth 'da'r gymuned i ni. Mae pobl yn hoffi siopa yn Aberdâr.

Image
Dafydd Davies
Dafydd Davies

'Symyd gyda'r oes'

Un peth sy'n allweddol meddai Dafydd yw symyd gyda'r oes. 

"Os y chi'n mynd yn sownd yn yr hen oes bydde chi ddim yn datblygu a bydde chi'n cau wedyn," meddai. 

"Mae wastad yn bwysig i ddatblygu'r cyfryngau cymdeithasol ac i fod ar lein."

Ac ar ôl i rai o sêr Love Island brynu gemwaith yn y siop mae'r busnes wedi denu cwsmeriaid o ardal eang, meddai Dafydd.

"Roedd hynny wedi datblygu ac o ni wedi dechrau cael cwsmeriaid yn dod o Chippenham, o Reading a hefyd Caerdydd, Maesteg a Chasnewydd - o bobman".

'Esgid yn gwasgu'

Tra'n ymfalchio yn y llwyddiant mae Dafydd Davies yn cydnabod bod trethi busnes yn heriol, a'r ffaith bod y busnes wedi sefydlu ers dros ugain mlynedd yn fendith.

Mae wedi bod yn dawelach nag arfer meddai perchennog y farchnad, Amanda Webber, ond mae hi a'i gŵr yn teimlo'n bositif.

"Mae hi'n gymuned dda yn y farchnad, ond mae na siopau gwag ar y stryd fawr. Dwi yn meddwl bod pethe yn dechrau gwella, mae development cyffrous yn digwydd.

"Mae’r esgid yn gwasgu, ry'n ni’n gwbod bod costau wedi codi 3.8% ar gyfartaledd yn y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf… mae hynny’n golygu bod chwyddiant yn dal i fod dipyn uwch na tharged banc lloegr, sef 2%."

Mae Aberdâr yn dref fawr, un o’r mwyaf yng Nghymru, ac yn un sydd wedi gorfod addasu dros y blynyddoedd. 

Y da a'r drwg ar strydoedd Aberdâr: Stori sy'n cael ei hailadrodd mewn trefi marchnad ym mhob cwr o Gymru.

Mae 'na heriau, gyda rhannau o’r dre’n edrych yn flinedig.

Ond mae'r ymdeimlad o gymuned yn Aberdâr hefyd yn cynnal busnesau drwy gyfnodau anodd.

Mae na falchder o hyd ym Mrenhines y Bryniau, a ffydd efallai y daw eto haul ar fryn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.