Gorymdaith Lerpwl: Dyn yn pledio’n ddieuog i 31 o droseddau
Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o yrru car i mewn i bobl yn ystod gorymdaith i ddathlu llwyddiant Clwb Pêl-droed Lerpwl wedi pledio’n ddi-euog i 31 o droseddau.
Fe wnaeth Paul Doyle, 53 oed, ymddangos dros gyswllt fideo o’r carchar, yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Iau ar gyfer gwrandawiad ple.
Fe blediodd yn ddi-euog i yrru'n beryglus, achosi ffrwgwd, 18 cyhuddiad o geisio achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, naw cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad a dau gyhuddiad o anafu gyda bwriad.
Roedd y diffynnydd, yn gwisgo sbectol a chrys-T llwyd, i'w weld yn edrych ar bapurau wrth i'r cyhuddiadau gael eu darllen iddo.
Fe ysgwydodd ei ben ar adegau yn ystod ygwrandawiad.
Mae'r honiadau'n ymwneud â 29 o ddioddefwyr, rhwng chwe mis a 77 oed.
Mae Heddlu Glannau Mersi wedi dweud fod 134 o bobl wedi'u hanafu, pan wnaeth Ford Galaxy Titanium, a honnir ei fod wedi ei yrru gan Doyle, yrru i mewn i dorfeydd ar Water Street yng nghanol y ddinas ar Mai 26.
Roedd cannoedd o filoedd o gefnogwyr Lerpwl wedi ymgynnull yn y ddinas i ddathlu ennill Uwch Gynghrair Lloegr.
Roedd Doyle wedi’i gyhuddo yn wreiddiol o saith trosedd ond ychwanegwyd 24 cyhuddiad newydd mewn gwrandawiad y mis diwethaf.