
Buddugoliaeth bwysig i Gymru yn Kazakhstan
Mae Cymru wedi ennill 1-0 yn erbyn Kazakhstan yn Astana brynhawn Iau.
Kieffer Moore sgoriodd unig gôl y gêm i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Roedd dros 1,100 o aelodau'r wal goch wedi gwneud y daith dros 3,000 o filltiroedd allan i Kazakhstan.
Dechreuodd Cymru gyda rhan fwyaf o'r meddiant fel y disgwyl, ond nid oeddynt yn gallu creu unrhyw gyfleoedd yn ystod y 10 munud cyntaf.
Pedair munud yn ddiweddarach fe wnaeth Sorba Thomas chwipo'r bel i fewn i'r cwrt 18 i Brennan Johnson, ond roedd ergyd yr asgellwr wedi gwirio dros y bar.
Ar 24 munud fe agorodd Cymru'r sgorio trwy'r ymosodwr, Kieffer Moore.
Roedd peniad Liam Cullen o gic rydd Harry Wilson wedi gorfodi golwr Kazakhstan i wneud arbediad campus.
Ond fe ddisgynnodd y bêl i Moore yn y cwrt chwech ac fe roliodd y bêl i rwyd wag i roi Cymru ar y blaen.
Dyna oedd 15fed gol yr ymosodwr 33 oed, gan ei gymryd yn uwch ar y rhestr prif sgorwyr ac uwchben John Hartson.

Fe ddaeth cyfle cyntaf Kazakhstan ychydig cyn yr egwyl trwy Galymzhan Kenzhebek.
Enillodd y bêl oddi ar Neco Williams, ac er protestiadau chwaraewyr Cymru ni roddodd y dyfarnwr gic rydd i'r ymwelwyr.
Roedd ergyd Kenzhebek wedi hedfan heibio'r postyn pellaf, ond rhybudd i Gymru gan Kazakhstan.
Nid oedd y naill dîm yn gallu creu cyfle clir wrth i'r hanner cyntaf ddod i ben. Cymru ar y blaen o 1-0 ar yr egwyl.
Cymru dan bwysau
Kazakhstan ddechreuodd yn gyflym ar ddechrau'r ail hanner, ac oni bai am arbediad gwych gan Karl Darlow fe fyddai'r tîm cartref wedi unioni'r sgôr.
Kenzhebek a wnaeth ergydio o du allan i gwrt 18, ond roedd Darlow wedi ymestyn ei fraich dde i wirio'r bêl oddi ar y bar ac allan am gic gosod.
Kazakhstan oedd yn parhau i reoli'r chwarae yn yr ail hanner wrth iddyn nhw bwyso amddiffyn Cymru ac yn eu hatal rhag symud y bêl fyny'r cae.
Unwaith eto Kenzhebek oedd prif fygythiad y tîm cartref, a'r tro yma yn rhedeg mewn o'r asgell chwith cyn i'w ergyd fynd heibio'r postyn.
Wedi 70 munud roedd Cymru yn parhau ar y blaen, ond Kazakhstan yn parhau i roi pwysau ar y crysau cochion.
Roedd rhaid i Darlow gamu i'r adwy eto i Gymru wrth i Maksim Samorodov saethu i gornel dde isa'r rhwyd.
Ond roedd Darlow lawr yn isel a throi'r bêl allan am gic osod.
Gyda llai na 10 munud yn weddill Samorodov ddaeth yn agos eto wrth i bêl hir guro Mepham, ond roedd ei ergyd dros y bar.
Kazakhstan oedd yn rheoli'r chwarae yn y munudau olaf, a chefnogwyr Cymru yn gobeithio am y chwiban olaf cyn iddyn nhw sgorio.
Gyda chic olaf y gêm roedd Kazakhstan wedi ennill cic rydd tu allan i'r cwrt 18.
Yn ffodus iawn i Gymru roedd ergyd Serikzhan Muzhikov wedi taro'r bar ac yna ddaeth y chwiban olaf gan y dyfarnwr.
Byddai Kazakhstan wedi teimlo'n anlwcus i beidio ennill pwynt.
Ond mae'n fuddugoliaeth bwysig i Gymru allan yn Astana.