Nadine Dorries yn cefnu ar y Ceidwadwyr gan ymuno â Reform
Mae cyn-ysgrifennydd diwylliant y Ceidwadwyr, Nadine Dorries, wedi cyhoeddi ei bod wedi ymuno â phlaid Reform UK.
Mewn erthygl yn y Daily Mail, ddiwrnod cyn i gynhadledd Reform ddechrau yn Birmingham, dywedodd: “Mae’r amser i weithredu nawr ac rwy’n credu mai’r unig wleidydd sydd â’r atebion, y wybodaeth a’r ewyllys i gyflawni yw Nigel Farage.”
Wrth gyhoeddi ei phenderfyniad, dywedodd Ms Dorries hefyd ei bod hi’n “bryd newid” ac yn amser i “wneud Prydain yn wych eto”, gan ddatgan bod y Blaid Dorïaidd yn “farw”.
Ysgrifennodd: “Mae fy mhenderfyniad i adael y blaid rwyf wedi’i gwasanaethu ers dros 30 mlynedd o bosibl yr anoddaf i mi erioed orfod ei wneud, ac mae wedi cymryd 12 mis poenus i mi ei gyrraedd.”
Wrth ymateb i'r newyddion bod Nadine Dorries wedi ymuno gyda Reform, dywedodd ffynhonnell o'r Democratiaid Rhyddfrydol: “Dydyn ni ddim yn gwybod pwy i deimlo tosturi drostynt, Kemi Badenoch neu Nigel Farage.”
Mewn post ar X, dywedodd arweinydd newydd y Blaid Werdd, Zack Polanski: “Nid yw 'r newydd fod Nadine Dorries wedi ymuno â Reform yn sioc.
“Bai Llywodraeth Lafur sy'n methu, a'u gwleidyddiaeth ddi-fflach yw'r rheswm am dwf Reform.”