Llawfeddyg o Gymru'n pledio'n euog i dwyll ar ôl colli ei goesau

Neil Hopper

Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid

Mae llawfeddyg fasgwlar o Gymru wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o dwyll ar ôl iddo honni bod ei goesau wedi eu torri i ffwrdd o ganlyniad i sepsis.

Ond mewn gwirionedd Neil Hopper, sy'n wreiddiol o Aberystwyth, oedd wedi achosi'r anafiadau iddo'i hun, gan rewi ei goesau er mwyn eu colli, cyn gwneud cais ffug am arian yswiriant.

Cafodd ei garcharu am 32 mis ddydd Iau wedi iddo geisio hawlio £466,653.81 o arian yswiriant.

Plediodd yn euog hefyd i dri chyhuddiad o fod â delweddau pornograffig eithafol yn ei feddiant, yn ymwneud â fideos gan wefan o'r enw'r EunuchMaker.

Fel llawfeddyg profiadol roedd wedi cynnal cannoedd o lawdriniaethau i dorri coesau cleifion i ffwrdd yn y gorffennol, cyn iddo golli ei goesau ei hun.

Plediodd Hopper yn euog i ddau gyhuddiad o dwyll yn Llys y Goron Truro.

Roedd wedi honni ei fod wedi colli ei ddwy goes o ganlyniad i sepsis yn 2019, ac roedd yn destun rhaglen ddogfen ar S4C yn 2023 yn dilyn ei daith wedi iddo gyrraedd rhestr fer am le i fod yn ofodwr.

Cwmnïau yswiriant

Clywodd y llys bod y cyhuddiadau'n nodi fod Hopper, rhwng 3 Mehefin a 20 Gorffennaf 2019, wedi gwneud datganiad ffug yn anonest i'r cwmnïau yswiriant Aviva ac Old Mutual Health, gan ddweud bod ei "goesau wedi cael eu torri i ffwrdd oherwydd salwch yn hytrach nag anaf a achosodd iddo'i hun".

Yn ystod y gwrandawiad llys ddydd Iau, clywodd y Barnwr James Adkin, cofnodwr anrhydeddus Truro, fod Hopper wedi dod i sylw'r heddlu yn dilyn ymchwiliadau i Marius Gustavson a oedd yn rhedeg gwefan The EunuchMaker.

Cafodd Gustavson ei garcharu am oes gyda chyfnod o leiaf 22 mlynedd dan glo yn yr Old Bailey yn Llundain y llynedd am arwain cylch addasu cyrff yn eithafol, a oedd yn cynnal sbaddu gwrywaidd, tynnu organau rhywiol gwrywaidd ar bobl mor ifanc â 16 oed.

Dedfryd

Gosododd y Barnwr James Adkin ddedfryd o garchar am gyfanswm o 32 mis a dywedodd wrth Neil Hopper y byddai'n treulio 40% yn y ddalfa cyn y gellid ei ystyried ar gyfer parôl.

Cafodd hefyd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol am 10 mlynedd.

Wrth gyhoeddi'r ddedfryd yn Truro, dywedodd y barnwr: “Ym mis Ebrill 2019 fe wnaethoch chi rewi'ch coesau isaf yn fwriadol gan achosi niwed uniongyrchol gan ddefnyddio iâ sych yn dilyn cyfarwyddiadau a roddwyd gan Mr Gustavson.

“Cawsoch eich derbyn i'r ysbyty pan oedd gennych symptomau sepsis gan wybod yn iawn beth fyddai'r meddygon yn chwilio amdano.

“Roeddech chi yn yr ysbyty am chwe wythnos ac ar ôl llawer o brofion ac amrywiaeth o driniaethau penderfynodd y meddygon na ellid achub eich traed a'u torri i ffwrdd ar Fai 17.

“Yn dilyn hynny, gwnaethoch geisiadau yswiriant twyllodrus i Aviva ac Old Mutual Wealth gan dderbyn cyfanswm o £466,000 yn dwyllodrus trwy honni bod yr anafiadau'n organig, wedi'u hachosi gan sepsis, pan achosoch chi'r anaf yn ôl pob golwg o leiaf yn rhannol ar gyfer boddhad rhywiol.”

Llawfeddyg

Nid yw Hopper wedi gweithio yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Brenhinol Cernyw ers mis Mawrth 2023.

Gosododd y Cyngor Meddygol Cyffredinol gyfyngiadau ar ei waith y mis canlynol, ac mae wedi cael ei wahardd o'r gofrestr feddygol ers mis Rhagfyr 2023.

Ar ôl i Hopper gael ei gyhuddo o bum trosedd, cyhoeddodd yr ymddiriedolaeth ddatganiad am Hopper, oed wedi gweithio yno ers degawd.

Dywedodd llefarydd ar y pryd: “Nid yw'r cyhuddiadau'n ymwneud ag ymddygiad proffesiynol Mr Hopper ac nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu unrhyw risg i gleifion.

“Gweithiodd Mr Hopper yn Ysbytai Brenhinol Cernyw o 2013 hyd nes iddo gael ei wahardd o'i ddyletswyddau ym mis Mawrth 2023, yn dilyn ei arestio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.