Cwmni gwyliau yn newid enw plasty yng Ngwynedd yn ôl i'r Gymraeg wedi cwynion
Mae cwmni sy'n hysbysebu llety gwyliau ar-lein a benderfynodd ddefnyddio enw Saesneg wrth hysbysebu hen blasty ger Pwllheli bellach wedi newid yr enw yn ôl i’r gwreiddiol yn dilyn cwynion.
Fel rhan o benderfyniad marchnata roedd adeilad hanesyddol Plas Bodegroes yn Efailnewydd yn ymddangos ar wefan Big House Experience o dan yr enw ‘Bromfield Hall.’
Ond yn dilyn cwynion a ddaeth i’r amlwg ar wefan Golwg ddydd Mercher, mae’r cwmni bellach wedi newid enw’r plasty yn ôl i’r gwreiddiol - Plas Bodegroes.
Mae’r plasty yng Ngwynedd yn dyddio’n ôl i tua 1780 ac yn ystod y degawdau diwethaf mae'r plas wedi gweithredu fel bwyty cain a gwesty pum seren.
Mae'r plas bellach yn cael ei hysbysebu fel "llety gwyliau ar gyfer hyd at 20 o bobl".
Ond roedd nifer o bobl wedi mynegi pryderon am benderfyniad cwmni Big House Experience i restru'r plas dan yr enw Saesneg gan ddweud bod hynny’n “tanseilio” treftadaeth yr adeilad a’r iaith Gymraeg.
Fe gysylltodd Newyddion S4C gyda chwmni Big House Experience ynglŷn â’r newidiadau diweddar i’w gwefan ddydd Iau.
Fe ddywedon nhw fod y broblem bellach “wedi ei datrys” wedi iddyn nhw newid yr enw Saesneg yn ôl i’r Gymraeg ar eu gwefan.
'Arfer cyffredin'
Mewn e-bost a ddaeth i ddwylo Newyddion S4C ddydd Mercher, fe ddywedodd y cwmni mai penderfyniad er lles ei marchnata oedd hysbysebu’r plasty dan yr enw Saesneg ‘Bromfield Hall.’
Dywedodd y byddai hynny’n sicrhau y gallai cwsmeriaid sydd ddim yn siarad Cymraeg ddod o hyd i’r plasty yn haws ar eu gwefan.
“Rydym wedi dewis enw sy'n swnio'n llai Cymreig, nid fel ffordd o geisio cael gwared a threftadaeth ieithyddol a hanesyddol Cymru mewn rhyw ffordd - dyna'r peth olaf y byddem yn dymuno.
“Ond rydym wedi canfod bod y cleientiaid sy'n ceisio archebu llety yn cael trafferth gydag enwau sy'n swnio'n Gymreig,” meddai’r e-bost.
Roeddwn nhw hefyd wedi dweud mai arfer “cyffredin iawn” oedd defnyddio enwau gwahanol ar adeiladau yn y diwydiant.
Fe aeth yr ebost ymlaen i ddweud eu bod nhw’n gwneud hynny gyda'i “holl eiddo,” a hynny yn rhannol o achos rhesymau diogelwch.
Y gred yw mai cyfeirio at bensaer honedig y plasty, sef Joseph Bromfield, oedd yr enw Saesneg yn achos Plas Bodegroes.