Teyrnged i hyfforddwr hedfan 'uchel ei barch' o Fôn a fu farw mewn damwain paragleidio
Mae Canolfan Awyrlu RAF Fali wedi rhoi teyrnged i hyfforddwr hedfan "uchel ei barch" o Fôn a fu farw yn dilyn damwain wrth baragleidio mewn hen chwarel lechi yng Ngwynedd.
Bu farw Geoffrey Corser, 46 oed, o Gae Mair ym Miwmares yn chwarel Dinorwig ger Llanberis ar 23 Awst.
Clywodd cwest i'w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Mawrth ei fod wedi marw o anaf i'w ben yn dilyn y ddamwain.
Dywedodd uwch grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, ei bod yn gohirio'r cwest am y tro wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cwblhau.
"Y wybodaeth gychwynnol yw ei fod yn paragleidio pan ddigwyddodd gwrthdrawiad yn y chwarel a chadarnhawyd ei fod wedi marw," meddai.
'Uchel ei barch'
Mewn datganiad, dywedodd Canolfan Awyrlu RAF Fali: "Gyda thristwch mawr y gall RAF Fali gadarnhau bod yr Is-gapten Hedfan Geoff Corser wedi cael ei ladd mewn damwain paragleidio tra'r oedd oddi ar ddyletswydd yn chwarel Dinorwig ar ddydd Sadwrn, 23 Awst 2025.
"Bu farw Geoff wrth wneud rhywbeth yr oedd yn angerddol amdano mewn bywyd – hedfan.
"Roedd Geoff yn hyfforddwr hedfan uchel ei barch yn RAF Valley, yn cael ei barchu'n fawr gan ei gydweithwyr a'r myfyrwyr a ddysgodd."
Ychwanegodd: "Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i anwyliaid yn ystod yr amser anodd iawn hwn."