'Dylai’r Cae Ras gael ei ail-enwi ar ôl y diweddar Joey Jones'

'Dylai’r Cae Ras gael ei ail-enwi ar ôl y diweddar Joey Jones'

"Fe ddylai’r Cae Ras gael ei ail-enwi ar ôl cyn pêl-droediwr Cymru, Lerpwl a Wrecsam, y diweddar Joey Jones."

Dyna farn cyn chwaraewr Wrecsam, Waynne Phillips, wrth iddo drafod dylanwad un o gewri mwyaf hanes pêl-droed Cymru fel rhan o raglen ddogfen er cof amdano. 

Bu farw’r amddiffynnwr “eiconig”, Joey Jones, yn 70 oed ym mis Gorffennaf 2025. 

Image
Joey Jones

Ac er bod cynlluniau eisoes ar y gweill i godi cerflun, mae Waynne Phillips yn dweud y dylai stadiwm hanesyddol y Cae Ras gael ei enwi ar ei ôl mewn teyrnged iddo hefyd. 

Wrth siarad ar y rhaglen ddogfen newydd, Joey a fydd yn cael ei darlledu ar S4C dywedodd Waynne Phillips: “Mae sôn ‘di bod am gael rhyw statue neu stand ar ei ôl o. Yn y’m marn i, mi ddylsa’r stadiwm gael ei enwi ar ei ôl o. 

“Dyna faint mae o yn golygu i fi a dwi’n siŵr y byddai’r rhan fwyaf o’r cefnogwyr yn dweud rhywbeth tebyg.”

Image
Wayne Phillips
Waynne Phillips yn siarad ar reglen 'Joey'

Ychwanegodd Waynne Phillips: “Dyn dwi’n edrych fyny at ac hebddo fo 'swn i sicr heb gael yr yrfa geshi. 

“Dwi erioed ‘di gweld unrhyw beth yn debyg i Joey Jones. 

“Mae ‘na pobol eraill ar ben y rhestr ond dim, dim, dim yn agos iawn. 

“Dyna pam mae pobol yn feddwl gymaint ohono fo.”

Image
Waynne Phillips
Waynne Philips, Wrecsam

'Byth ildio'

Yn wreiddiol o Landudno, chwaraeodd Jones dros 500 o gemau i glybiau Wrecsam, Chelsea, Lerpwl a Huddersfield, yn ogystal â 72 o gemau dros Gymru.

Mae ei ffrind a chyd chwaraewr i Wrecsam, Chelsea a Chymru, Mickey Thomas, wedi dweud mai Joey oedd yn gyfrifol am “achub fy mywyd – heb os nac oni bai,” a hynny yn dilyn cyfnodau heriol yn ei fywyd. 

Roedd gan y ddau berthynas yn debyg i “frodyr” wedi iddyn nhw gael eu magu yn yr un ardal yn Llandudno ar ystâd tai cyngor. 

“Roedd rhaid i ni hyfforddi yn hyd yn oed yn fwy caled. Wnaeth o byth ildio,” meddai. 

“Er efallai nad oedd o’r gorau ar y dechrau, fe wnaeth o sicrhau mai fo oedd un o'r pêl-droedwyr gorau i chwarae i'w glwb pêl-droed erioed.” 

Image
Joey Jones
Joey Jones a Mickey Thomas

'Eicon'

A hithau’n rhan o genhedlaeth newydd o chwaraewyr Wrecsam mae’r pêl-droediwr Lili Jones wedi disgrifio Joey Jones fel “eicon” y byd pêl-droed.

Dywedodd ei bod hi'n cytuno â Waynne Phillips: “Pob dim ‘da ni’n gallu enwi ar ôl Joey Jones – that should be done.”

Image
Joey Jones

Fe chwaraeodd Jones ran hollbwysig wrth i Lerpwl ennill y gynghrair a Chwpan Ewrop yn 1977, a fo oedd y Cymro cyntaf i ennill y cwpan Ewropeaidd.

Fe wnaeth Jones ddychwelyd adref i Wrecsam gyda’i yrfa yn 1978 am ffi o £220,000. 

Roedd hynny’n record i'r clwb tan i Rob McElhenney a Ryan Reynolds arwyddo cytundeb am Ollie Palmer, 44 mlynedd yn ddiweddarach yn 2022.

Wedi iddo ymddeol o chwarae fe ymunodd â thîm hyfforddi Wrecsam, cyn cael ei benodi'n hyfforddwr am gyfnod yn 2001 wedi i Brian Flynn adael y clwb.

Camodd yn ôl o'i gyfrifoldebau gyda'r clwb yn 2017, cyn ei benodiad fel Llysgennad Tîm Ieuenctid Wrecsam ym mis Medi 2021, yn arsylwi'r timoedd ieuenctid.

Bu'n gapten dros Gymru bump o weithiau, gan gynnwys ei gêm olaf yn erbyn Canada yn 1986.

Sgoriodd ei unig gôl dros ei wlad mewn gêm gyfartal 4-4 yn erbyn Yugoslafia yn 1982.

Bydd 'Joey' yn cael ei ddarlledu ar S4C am 21.00 nos Iau.

Lluniau: Rondo Media

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.