Prosiect i archwilio adeiladau capeli yng Nghymru

Capel y Bedyddwyr Seion yn y Drenewydd

Mae prosiect wedi dechrau er mwyn archwilio adeiladau capeli yng Nghymru ac i ddatblygu strategaeth i'w gwarchod.

Y bwriad yw darganfod beth yw'r problemau sy'n wynebu capeli heddiw a chynnal arolwg cenedlaethol er mwyn gallu cofnodi data o'r sefyllfa bresennol.

Bydd yr arolwg yn mapio'r capeli sydd ar agor, y rhai sydd wedi cau a'r rhai sydd wedi eu haddasu.

Bydd y data’n cyfrannu at arolwg cenedlaethol Cadw o asedau hanesyddol.

Y bwriad yw sicrhau bod capeli Cymru yn cael eu gwarchod, eu deall a'u gwerthfawrogi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Prosiect gan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw hwn ac maent wedi cael cymorth ariannol cychwynnol o £151,833 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. 
 

Bydd y Comisiwn yn gwneud cais am grant llawn yn y pendraw o £1.25 miliwn gan y Loteri Genedlaethol.

Mae'r comisiwn yn dweud y byddant yn cydweithio gydag enwadau, pobl sydd yn mynd i'r capel, cymunedau a sefydliadau treftadaeth er mwyn datblygu'r strategaeth. Bydd hefyd cyfleoedd digidol i bobl gyfrannu gyda'r gobaith o fanteisio ar wybodaeth leol am hanes y capeli.

Colli mwy nag adeilad

Yng Nghymru mae capeli wedi diffinio tirwedd Cymru ers dros dair canrif. Ond er eu bod yn adeiladau o bwys cenedlaethol maent yn wynebu heriau mawr. Mae'r niferoedd sydd yn mynd i'r capeli wedi crebachu ac yn anodd cynnal adeiladau mawr sydd yn aml yn rhai hen.

Yn ôl y Comisiwn Brenhinol yr amcangyfrif yw bod tri chwarter o gapeli Cymru wedi cau eu drysau. Y peryg gyda hynny meddai'r Comisiwn yw bod mwy na dim ond adeilad i addoli yn cael ei golli, ond yn hytrach yr elfennau diwylliannol fel hanesion llafar a thraddodiadau cymunedol. Mae gwrthrychau ac archifau hefyd mewn peryg. 
 

Y bwriad gyda'r strategaeth yw meddwl am ffyrdd ymarferol i ddiogelu treftadaeth capeli ar draws y wlad.  Bydd dwy swydd newydd yn cael eu hysbysebu er mwyn helpu gyda'r prosiect.

Dywedodd Susan Fielding o’r Comisiwn Brenhinol: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cael y cymorth cychwynnol hwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae capeli Anghydffurfiol yn rhan greiddiol o hunaniaeth ddiwylliannol Cymru. Diolch i’r sawl sy’n cymryd rhan yn y Loteri Genedlaethol, gallwn yn awr ddatblygu ein cynlluniau i sicrhau bod gwaddol y capeli hynny – eu gwaddol ffisegol a’u gwaddol diwylliannol – nid yn unig yn cael ei gofnodi a’i ddiogelu ond hefyd yn parhau’n hygyrch ac yn ystyrlon i genedlaethau’r dyfodol.” 

Llun: Capel y Bedyddwyr Seion yn y Drenewydd sydd erbyn hyn wedi ei werthu, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.