Arlywydd China yn arddangos ei gryfder milwrol
Mae Arlywydd China, Xi Jinping wedi cynnal gorymdaith filwrol enfawr er mwyn nodi 80 mlynedd ers i'r wlad orchfygu Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn ystod yr orymdaith cafodd arfau laser, taflegrau niwclear a dronau dan y dŵr eu dangos.
Ymhlith y 26 o arweinwyr byd roedd Arlywydd Rwsia Vladimir Putin, ac arweinydd Gogledd Korea, Kim Jong-Un. Dyma'r tro cyntaf i'r ddau a Xi Jinping gyfarfod yn gyhoeddus gyda'i gilydd erioed.
Dim ond dau arweinydd o'r gorllewin oedd yno yn Bejing.
Wrth roi araith ar ddechrau'r orymdaith dywedodd Arlywydd China bod angen heddwch yn y byd.
"Fe ddylai'r holl wledydd a chenhedloedd edrych ar ôl ei gilydd a helpu ei gilydd. Wedyn fe allwn ni osgoi ailadrodd trasiedi."
Er hynny dywedodd hefyd wrth y dorf yn Sgwâr Tiananmen nad oes modd atal China i wneud yr hyn maen nhw eisiau.
Mae Xi Jinping wedi ei gyhuddo o gefnogi ymdrechion rhyfel Rwsia yn Wcráin. Yn ystod yr araith fe wnaeth o hefyd gyfeirio at Taiwan gan ddweud bod hi'n ddyletswydd ar y fyddin i uno China.
Llun: Gweinyddiaeth Materion Tramor Rwsia