Disgwyl cynnydd mewn achosion o ganser yng Nghymru erbyn 2035
Fe fydd tua 24,000 o achosion canser newydd yng Nghymru yn 2035, sydd yn gynnydd o tua 11% o'i gymharu â 2025 yn ôl amcangyfrif newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r adroddiad yn awgrymu fod hyn "i raddau helaeth" oherwydd y boblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru, gan fod canser yn fwy cyffredin ymysg pobl hŷn.
Y gred yw fod nifer o bobl 65 oed a hŷn yng Nghymru wedi cynyddu 186,000 yn yr 20 mlynedd rhwng 2005 a 2025, a'r disgwyl yw y bydd yn cynyddu 135,000 yn fwy yn y degawd nesaf.
Mae canser yn gyfrifol am tua un o bob pedair marwolaeth yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Fe gafodd 9,123 o farwolaethau yng Nghymru eu cofnodi fel rhai a gafodd eu hachosi gan ganser yn 2024.
Er bod y tebygolrwydd o oroesi am fwy na phum mlynedd ar ôl cael diagnosis o ganser wedi bod yn cynyddu, mae cyfanswm yr achosion newydd wedi cynyddu hefyd.
Mae hynny yn golygu fod 10% yn fwy o farwolaethau o ganser yng Nghymru bellach o gymharu â 2002.
Mae mwy na hanner yr achosion o ganser yn deillio o'r pedwar math mwyaf cyffredin, canser y prostad, canser y fron, canser yr ysgyfaint a chanser y coluddyn.
Canser yr ysgyfaint sy'n gyfrifol am y nifer uchaf o farwolaethau o ganser, ac mae hynny yn rhannol oherwydd fod pobl yn derbyn diagnosis yn rhy hwyr.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi nad oes arwyddion o gau'r bylchau rhwng ardaloedd breintiedig a difreintiedig mewn diagnosis o ganser nac yn y nifer sy'n goroesi.
Dywedodd Dr Llion Davies, Ymgynghorydd Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Wrth i'r nifer o bobl yn y grwpiau oedran hŷn yn y boblogaeth Gymreig gynyddu, rydym yn rhagweld y bydd rhagor o bobl yn cael diagnosis o ganser, gan mai mynd yn hŷn yw un o brif ffactorau sy’n achosi canser.
“Mae’r anghydraddoldebau yn parhau i fod yn amlwg iawn. Mae diffyg sylfeini iechyd a llesiant yn rhy gyffredin yng Nghymru. Mae cartrefi sy’n iach i bobl fyw ynddynt, swyddi da, bod â digon o arian i dalu’r biliau, cysylltiadau â phobl yn ein cymunedau, addysg a sgiliau, ac amgylcheddau diogel a glân yn annigonol, neu maent ar goll yn gyfan gwbl.
"Mae hyn yn arwain at iechyd gwaeth a bywydau’n cael eu torri’n fyr."