Rhybudd melyn am law trwm a gwyntoedd cryfion
Mae rhybudd melyn mewn grym am law trwm a gwyntoedd cryfion mewn ardaloedd yn ne Cymru.
Mae'r rhybudd yn ei le rhwng 00.01 fore Mercher a 14.00 prynhawn Mercher.
Gallai effeithio ar ardaloedd: Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Caerdydd; Sir Gaerfyrddin; Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Castell-nedd Port Talbot; Casnewydd; Powys; Rhondda Cynon Taf; Abertawe; Torfaen; Bro Morgannwg.
Mae'n bosib y bydd rhwng 20-30 mililitr o law yn disgyn ond mae 40-60 mililitr hefyd yn bosib mewn rhai ardaloedd o fewn cyfnod o 6-9 awr. Y disgwyl yw y bydd yr amodau yn gwella yn ystod y prynhawn wrth i'r cawodydd ddod yn fwy ynysig.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae posibilrwydd o lifogydd ac y gallai'r glaw effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Maent yn dweud eu bod yn debygol y bydd effaith ar wasanaethau trên a bysiau gyda theithiau yn cymryd hirach.
Hefyd fe allai'r sefyllfa effeithio ar gyflenwadau trydan.
Yn ogystal mae rhybudd melyn arall am law wedi ei gyhoeddi ar gyfer dydd Iau, mewn siroedd ar hyd a lled Cymru, rhwng 02.00 y bore a 17.00 y prynhawn sef:
Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Caerdydd; Sir Gaerfyrddin; Ceredigion; Conwy; Sir Ddinbych; Sir y Fflint; Gwynedd; Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Castell-nedd Port Talbot; Casnewydd; Sir Benfro; Powys; Rhondda Cynon Taf; Abertawe; Torfaen; Bro Morgannwg a Wrecsam.